Kelsey Cruz-Martin - A Shell Stood for Zero

28 Mawrth - 25 Ebrill 2026

A Shell Stood for Zero , 2026
A Shell Stood for Zero , 2026

g39 yn cyflwyno A Shell Stood for Zero, gosodwaith sonig a cherfluniol newydd gan yr artist Kelsey Cruz-Martin. Gan gwmpasu ysgrifennu, printio, cerflunio a sain, mae ei hymarfer yn archwilio gwybodaeth brofiadol, y llais, a’r berthynas rhwng iaith a’r corff.

Mae’r gosodwaith yn ymgysylltu â’r themâu arfogaeth, sylw, a gwrando fel gweithredoedd presennol, gan gymylu’r ffiniau rhwng bywyd organig a bodolaeth ddigidol. Dyma gyflwyno cyfres newydd o gerfluniau, a ddatblygwyd yn ystod cymrodoriaeth blwyddyn o hyd gyntaf Freelands Foundation ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd 2025/26. Mae’r gweithiau hyn yn deillio o arbrofion â deunyddiau a phrosesau, gan gynnwys castio alwminiwm â phroses cragen seramig a chwyr coll, sy’n datgelu cyseiniannau rhyfedd â’r corff.

Drwy ffurf, iaith a sain, mae A Shell Stood for Zero yn archwilio terfynau cynrychiolaeth sonig, gan greu deialog rhwng yr hyn a welir ac a glywir yn yr oriel a’r hyn a allai ymestyn y tu hwnt iddi. Mae’r gosodwaith yn creu gofod i gwestiynu’r hyn rydym ni’n dewis ei hidlo a’r hyn rydym ni’n caniatáu i ni’n hunain ei amsugno.

  • A Shell Stood for Zero , 2026

Programme