Gweithdy: Ysgrifennu Trwy Ddelwedd

24 Medi 2026

14.00-16.00 - there will be a BSL Interpreter at this event

Gweithdy Ymateb Creadigol gyda Durre Shahwar

Ymunwch ag artist ac ysgrifennwr DAC Durre Shahwar am weithdy 2-awr, mewn person yn archwilio’r perthynas rhwng delwedd symudol, testun, ac ysgrifennu creadigol.

Gan ddefnyddio ffilm delwedd symudol a thestun dewisol gyda chysylltiad i’r arddangosfa fel pwynt dechrau, bydd cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i wylio, ddarllen, trafod, a phwyllo gyda'i gilydd. Trwy drafodaethau wedi’u harwain ac ymarferion ysgrifenedig, bydd y gweithdy yn annog ymatebion creadigol i themâu mae’r arddangosfa yn codi, gan gynnig cyfleoedd i archwilio persbectifau personol, atgofion, syniadau, a sylwadau.

Mae’r sesiwn yma yn agored i bobl o bob lefel o brofiad ac i unrhyw un gyda diddordeb mewn meddwl creadigol, adrodd straeon, ac ymateb i waith celf trwy eiriau. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol ysgrifenedig.

Rhaid archebu tocyn, ond maen nhw ar gael am ddim.

    Programme