Sinema: Selected 16

12 Medi 2026

18.00-20.00

Jack Guariento, Bellsmyre Caledonia, 2024
Jack Guariento, Bellsmyre Caledonia, 2024

Dangosiad o weithiau ffilm trawiadol newydd gan artistiaid o bob rhan o’r DU

Gan gynnull ynghyd naw ffilm artistig unigryw, mae Selected 16 yn cynnig cipolwg a throsolwg o ymarfer creu ffilmiau gan artistiaid heddiw. Yn rhychwantu gwaith dogfen, ffilm-ysgrif, sinema arbrofol a ffilmwneuthuro analog, mae’r rhaglen yn archwilio themâu’n ymwneud â chof, hunaniaeth, ecoleg, mudo, cymuned a pherthyn.

O dirweddau aflonyddus, at hanesion teuluol, at ddefodau casglebol, at safbwyntiau ymgyrchol a gwithredoedd personol o goffáu, mae’r gweithiau dewisedig yn amlygu amrywiaeth, uchelgais, a brys y sîn ffilmiau artistig ar draws y DU.

Mae cyfoeth o ffilmiau chwareus, ysgogol, teimladwy ac annisgwyl yn disgwyl amdanoch.

Ffilmiau’r rhaglen:

- Chanthila Phaophanit, Beneath the Shell of Sound, 2026, 8:12 munud
- Che Applewhaite, I AM THE WORLD, 2022, 9:00 munud
- Chiemi Shimada, mmm, 2023, 7:06 munud
- Jack Guariento, Bellsmyre Caledonia, 2023, 6:34 munud
- Leena Habiballa, Dead as a Dodo, 2022, 5:18 munud
- Rhiana Bonterre, A Story, An Invocation, An Opening, 2025, 7:42 munud
- Rosanna Lee, Heart of the Lion 赤子獅心, 2026, 19 munud
- Viviana Almas, In Silence Seeds Weep, 2025, 1:48 munud
- Viviana Almas, Solus, 2025, 2:46 munud


Cynhyrchwyd gan videoclub a FLAMIN. Cefnogwyd gan Arts Council England a Film London.

    • Jack Guariento, Bellsmyre Caledonia, 2024

    Programme