Galwad: Agored Pam

9 - 10 Hydref 2026

Drop off // Cyflwyno Gwaith

Mae Pam a g39 yn falch iawn o’ch gwahodd chi i gyflwyno eich gwaith celf ar gyfer Arddangosfa Agored Pam eleni. Fel bob tro, does dim ffi cyflwyno na chyfyngiadau ar oedran, gallu neu brofiad.

Bydd pob darn o waith sy'n cyd-fynd â’r meini prawf yn cael eu harddangos. Mae hon yn alwad agored go iawn, un rydyn ni wedi bod yn falch o'i harloesi ers 2009 ac sydd bob amser yn arwain at arddangosfa wych, gynhwysol ac eclectig, ac edrychwn ymlaen at weld beth sydd gan 2026 i’w gynnig!
Am wybodaeth ynglŷn â’r meini prawf, ewch i pamcommonartcollective.org

Dewch â'ch gwaith i g39, Stryd Rhydychen, Caerdydd CF24 3DT

Os na allwch ddod ar un o'r dyddiadau hyn, neu os oes angen help arnoch i gael eich gwaith i'r oriel, anfonwch e-bost atom ar gail@pamcommonartcollective.org, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud trefniadau eraill i chi. Croesewir cyflwyniadau drwy’r post cyn belled â'u bod yn cyrraedd erbyn 11 Hydref.

Dyddiadau’r Arddangosfa:
Lansiad: 17/10/2026, 17.00-20.00
Agored: 21/10/2026 - 21/11/2026

      Programme