
Mae arddangosfa Pam Agored yn arddangosfa flynyddol a ddechreuodd fel rhan o ŵyl madeinroath yn 2009. Fe’i cynhaliwyd yn wreiddiol mewn siopau gwag a mannau dros dro ledled y Rhath, ac mae wedi cael ei
chynnal gan g39 dros y saith mlynedd diwethaf.
‘Os dewch â’r gwaith, byddwn ni’n ei hongian' fu’r egwyddor erioed, heb
i neb gael ei wrthod. Mae pob gwaith celf unigol yn siarad yn ei lais unigryw ei hun, ochr yn ochr â llu o leisiau eraill, gan rannu gofod cyfartal a chyd-greu’r gwaith celf cyfunol cyfoethog a llawen a
gynrychiolir gan Pam Agored. Diolch yn fawr i’n beirniaid ar gyfer 2026, Husna
Hossain, Daniel Lazenby a Hannah Walters; a diolch arbennig i’r holl artistiaid sydd wedi cyfrannu.
Mae Pam yn sefydliad sy’n cael ei redeg gan artistiaid, ac sy’n gweithio ar lawr gwlad i gefnogi ecosystem o weithgarwch artistig cynhwysol yn nwyrain Caerdydd. O dan arweiniad Clare, Helen, Nasima a Gail, mae Pam yn gweithio'n agos gydag artistiaid a chymunedau ledled Caerdydd
ar draws amrywiaeth eang o gyfryngau, gan gynnwys darlledu, celf weledol, print, tyfu, coginio a bwyta gydag eraill.

Copyright © g39 2025 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants