Experimentica 03

8 - 12 Hydref 2003

Mae Experimentica 03 yn darparu trochfa pum diwrnod ym mydoedd eclectig, difyr ac egnïol artistiaid annibynnol mwyaf arloesol Cymru. Gan gynnwys lleisiau perswadiol newydd ochr yn ochr ag ymarferwyr profiadol, cyflwynodd Experimentica 03 berfformiad, celf weledol, fideo, ffilm, sain ac ymarfer traws ddisgyblaethol o Gymru a gwahoddwyd gwesteion o'r DU a gwesteion rhyngwladol, gan gynnwys y gwneuthurwr ffilmiau arbrofol o Lundain Guy Sherwin, yr artistiaid perfformio Silke Mansholt a Robin Deacon a RHWNT, sef rhaglen o artistiaid sy'n cymryd risgiau o Quebec, Canada, a gynhyrchwyd gan TRACE Installation Art Space.


Dechreuodd Experimentica 03 yn Oriel y Chapter ond eleni cafodd ei chynnal hefyd yn oriel celf gyfoes fwyaf canolog Caerdydd, g39. Gwnaethom gynnal tri pherfformiad a phrosiectau gosod dros y rhaglen pum diwrnod gan Paul a Paula, Clive Myer a Michael Day.

    Programme