If.... Dawn Woolley

28 Gorffennaf - 14 Awst 2010

<i>Cut to the Measure of Desire</i>, performance at g39, 2010
Cut to the Measure of Desire, performance at g39, 2010

Cardiff-based Dawn Woolley’s practice encompasses photography, video, installation and performance, using photographs of objects and people to question issues of artificiality and idealisation.

Mae Dawn Woolley, yr artist o Gaerdydd, yn parhau â rhaglen If... g39. Mae gwaith Woolley yn cwmpasu ffotograffiaeth, fideo, gosodiadau a pherfformiad, gan ddefnyddio ffotograffau o wrthrychau a phobl i gwestiynu ffugioldeb a delfrydoli.


Yn bennaf, mae gwaith celf Woolley yn waith hunan bortread, ond nid yn yr ystyr traddodiadol. Mae hi wedi datblygu dull nodweddiadol lle mae'n creu copi ffotograffig o'i hunan ac yn ei osod yn y byd go iawn, gan ei gwneud yn eilydd ac yn gynrychiolydd gweladwy ohoni hi ei hun.

Yn Cut To The Measure Of Desire , mae Woolley yn ymestyn y rhith hwn i berfformiadau a gosodiadau, gan greu golygfa sy'n atgof o'r bywyd llonydd neu vanitas, gan osod ei hunan yng nghanol yr olygfa tra'n ceisio dal y delweddau ffotograffig i fyny o'i chwmpas. I greu hyn mae gwaith Woolley yn cael ei fframio gan ffenestr siop Fictorianaidd g39. Wedi'i ymdrochi mewn golygfa gymhleth o gyflafan, mae Woolley yn cyflwyno'i hun fel unigolyn amherffaith wedi'i guddio mewn byd 2-ddimensiwn delfrydol.

Mae pob ystum a gwrthrych yn cael eu dewis yn ofalus er mwyn symboleiddio cymysgaredd, masnach a dyhead. Gan atgoffa rhywun o draddodiadau paentiad bywyd llonydd a'r tableau-vivant, mae Dawn yn rhan o'r olygfa - unigolyn amherffaith wedi'i guddio mewn byd 2-ddimensiwn delfrydol. Mae'r nod o gynnal y rhith o berffeithrwydd yn ofer ac mae codau dyheadau yn torri'n ddarnau mân o dan bwysau sylliad y gwyliwr.

This show was selected by
  • Michael Cousin
    • <i>Cut to the Measure of Desire</i>, performance at g39, 2010
    • <i>Cut to the Measure of Desire</i>, performance at g39, 2010
    • <i>Cut to the Measure of Desire</i>, performance at g39, 2010

    Programme