The Last Days of The Empire

4 - 22 Rhagfyr 2010

Peter Finnemore
Peter Finnemore

In the weeks leading up to Christmas, g39 has embarked on a project with twelve artists to produce new work. Each artist has worked with g39 in the past and have been commissioned to produce a limited edition print for the gallery.

Yn ystod yr wythnosau yn arwain at y Nadolig, cychwynnodd g39 ar brosiect gyda deuddeg artist i gynhyrchu print argraffiad cyfyngedig. Gellir edrych ar y printiau a’u harchebu yn ein siop ar-lein. Am fwy o wybodaeth am bob darn o waith, cysylltwch â ni yn uniongyrchol.


Mae'r teitl eironig yn cyfeirio at y byd heddiw sy’n newid yn gyson, adeg o galedi ac ail-werthuso. Mae diwedd y flwyddyn yn ysgogi cyfnod o ddechrau newydd. Mae hwn yn gyfnod o ansicrwydd i g39, ond rydym yn gyfarwydd ag addasu i newid ac ail-ddyfeisio ein hunain, mae'n strategaeth ddefnyddiol i oroesi mewn cyfnodau ansicr.

Mae'r arddangosfa hon yn nodi gwyriad ar gyfer g39, gan ailedrych ar genhedlaeth o artistiaid yr ydym wedi eu cefnogi yn y gorffennol. Mewn llawer o achosion rydym wedi eu cynrychioli - yn feirniadol ac yn guradurol - yn ystod cyfnod cynnar eu gyrfaoedd, ac mewn achosion eraill maent yn artistiaid sydd wedi datblygu eu gyrfaoedd ochr yn ochr â g39. Gan ystyried briff agored maent wedi ymateb gyda gwaith sy'n rhoi croestoriad o arferion cyfoes yng Nghymru.

Mae Casey Raymond hefyd wedi creu groto Nadolig gwahanol iawn. Yn enwog am ei waith graffig, ei fideos cerddoriaeth a’i ‘zines’, mae byd dyfeisgar Casey yn llawn cymeriadau anghyffredin. Nid yw'r groto yn eithriad, gyda Siôn Corn budr ei geg i groesawu ymwelwyr, waliau o fara wedi’i gnoi a melysion gorliwgar a marionetau cythryblus sy’n eistedd i wylio'r digwyddiadau. Mae groto Casey yn cyfeirio at ddiwylliant uchel ac isel ac yn amlygu traddodiadau a nodweddion hynod Dwyrain Ewrop.

Mae'r arddangosfa yn cyd-daro â On Collecting: Transactions in Contemporary Art, seminar a oedd yn ystyried y broses o ddatblygu ecoleg ddiwylliannol mewn trefi a dinasoedd sydd yn ddaearyddol bell oddi wrth 'y farchnad'.

  • Peter Finnemore
  • Will Woon
  • Pacal-Michel Dubois
  • Richard Bevan
  • Awst & Walther
  • Jo Berry
  • Simon Holly
  • S Mark Gubb
  • Casey Raymond

Programme