Hard Copy

Iaith a chyfathrebu, mewn ffurfiau gweledol a llafar yn cael eu chwarae ar a ddadadeiladu yn Copi Caled, sef cydweithrediad rhwng Chris Lloyd a Wayen Gruffudd.


Cyn i chi ddod i mewn i'r oriel yn g39 rydych yn dod ar draws darn o waith wrth y drws blaen: plac pres sy'n rhestru, yn ôl enw a theitl, yr holl artistiaid sydd wedi gweithio yn yr oriel hyd yma. Mae'r plât enwau gan Chris Lloyd yn cadarnhau holl ymdrechion unigolion yn y gorffennol, tra bod dyfodol y gofod a redir gan artistiaid yn g39 yn edrych yn ansicr. Yn nharo a gwrthdaro sin diwylliannol Caerdydd sy'n newid yn gyflym, mae penderfyniadau cyllido y mae hir aros amdanynt yn golygu ei fod yn bosibl mai dyma fydd arddangosfa olaf yr oriel. Mae'r plât enwau, er mawr ofid, yn rhywbeth rhwng arwydd cwmni a phlac treftadaeth '... arferwyd gweithio yma gynt....' Mae hyn yn nodweddiadol o waith Chris: Mae'r gwrthrychau'n gyfarwydd tra bod y neges yn wahanol i'r hyn a ddisgwyliwn. Mae gwaith Chris Lloyd yn defnyddio system o ailgyflwyno pethau sydd eisoes yn gyfarwydd inni, ond trwy'i wrthdro neu ei newid ychydig mae'n ein synnu'n llechwraidd.

Wrth wneud Sprachgitter, mae Wayne Gruffudd wedi mynd ati'n fanwl i ddatgymalu’r holl eiriadur a'i ailgyflwyno fel ystafell y mae ei muriau’n symud ymlaen ac yn ôl wrth ichi geisio dehongli'r gorlwyth gormodol o wybodaeth. Mae colofnau'r geiriau'n cynnwys popeth, felly er mwyn gweld y gwaith yn iawn mae'r gwyliwr yn cael ei orfodi i gamu yn ôl, gan adael gair a diffiniad y tu ôl iddo.

Ar yr ail lawr, mae Sprachgitter (Rhwyd iaith) yn atalfa rhwyd y ceisiwn gyfathrebu â phobl eraill trwyddi. Emosiwn, teimlad ac ati wedi'u lleihau i gyfrwng cyfyngedig sydd yn cael ei (gam)gyfieithu gan y gwrandäwr ddarllenwr. Iaith yw'r gofod clawstroffobaidd yr ydym yn byw ynddo, ond eto erys yn wrthrych dyhead - y gobaith ffug o gysylltioldeb 'gwirioneddol'. Priodolwyd i Paul Celan 1920-70

Programme