Under Construction

CAEL EI ADEILADU
Simon Blackmore – Nick Evans – Stuart Lee


Mae CAEL EI ADEILADU yn cyflwyno gwaith tri artist y mae eu gwaith yn eistedd yn y bwlch rhwng natur a diwylliant, rhwng diffeithwch anystywallt a gweithgareddau hamdden. Mae delfryd natur wedi ei drwytho yn y traddodiad Rhamantaidd, delwedd sydd wedi para’n gyson trwy ddatblygiad trefol dilynol; mae’r delfryd felly wedi tyfu’n ffuglen. Yn seicolegol, mae’r wlad wedi dod yn rhan o’r ddinas gan ei fod yn lle i ddianc iddo, yn llestr i’r dynfa o fod yn y ddinas. Yn y ddinas, mae’r wlad yn dod yn hafan ar gyfer llonyddwch, mae’r agendor yn dylyfu gên ac mae angof rhyddhad yn ein cipio ni i ffwrdd o’r naw tan bump. Mae’n lle i dreulio amser hamdden, i ymweld ag e ar ddiwrnod i ffwrdd a rhyfeddu ar ‘bethau’ yn amrywio o goedwigoedd agored i dai gwledig. Tawelwch, a dorrir ond gan awel fwyn a chân yr adar.

Mae darn Nick Evans ‘Poultry Club’ yn cymryd golwg amgen ar natur. Mae e’n gwneud hyn trwy wneud modelau, arfer sydd rhyw fodd yn caniatáu i ni gymryd cam i ffwrdd o realiti, ond sydd hefyd yn gofyn i ni ddychmygu yn yr un modd ag y mae model pensaer yn dychmygu y bydd. Mae gan y modelau hobi, sy’n debyg i airfix, o ymladd ceiliogod a gymerwyd o baentiad neo-glasurol islif o rywbeth tipyn yn llai iachusol na difyrrwch hamdden. Mae ei ddiddordeb ef gyda bridwyr anifeiliaid, ffansiwyr colomennod y byd, y modd y mae pobl yn rhyngweithredu ag anifeiliaid, rhai domestig ac fel arall. Mae gofal dros les yr anifeiliaid, bridio allan y rhywogaethau gwannach er mwyn cyflawni’r gorau, p’un ai ar gyfer cael y ci mwyaf llyfndew yn Crufts neu ar gyfer hogi’r peiriant lladd eithaf at ddibenion betio. Gan ymdrin â’r anifeiliaid/datblygiad a hamdden, mae ei waith yn cymryd golwg ar ochr dywyllach y natur ddynol, gan godi cwestiynau ynglyn â sut yr ydym yn canfod y gwledig, a rheolaeth ddynol dros yr amgylchfyd.

Yn ei hanfod, mae gwaith Stuart Lee yn astudiaeth i mewn i natur edrych. Gan ffocysu ar weithgaredd hamdden gwylio adar, mae Lee yn rhoi’r gwyliwr yn safle’r gwyliedig. Troir sylw ar y guddfan rhag adar gan sefydlu perthynas rhwng yr heliwr a’r sawl a helir, ffotograffydd a thestun; fodd bynnag, mae’r gwyliwr wedi ei leoli rhwng y sawl a helir a’r testun. Mae Lee yn archwilio pwer yr arsylliad a’r awydd i brofi natur heb ryngweithredu. Wedi eich ynysu o’r tu allan, mewn caban pwrpasol, mae’r gwyliwr yn gwylio o leoliad diogel.

Mae’r oriel, fel y guddfan yn lleoliad ar gyfer afrealrwydd sy’n rhoi trwydded i’r gwyliwr arsylwi. Mae’r gwyliwr yn mynd i mewn i oriel, lle i edrych ar gelf yn benodol a dim byd arall, felly unwaith ei fod yn y lleoliad, fe’u symudir o’r byd y tu allan a’u gosod mewn rhyw fath o an-le.

Mae gwaith Simon Blackmore yn cymryd y ciwb gwyn gwarchodol a’i wneud yn gludadwy, yn llythrennol trwy ei roi ar olwynion. Mae Simon wedi trawsnewid carafán y 70au er mwyn i’r gwyliwr eistedd y tu fewn a gwylio’r dirwedd trwy’r ffenest flaen. Fel y guddfan yng ngwaith Lee mae’n caniatáu rhyw fath o wahaniad o’r byd naturiol. Mae’r ffenest yn dynwared ffurfwedd paentio, ffotograffiaeth, neu sgrîn daflunydd yn effeithiol. Tra’n cynnal y syniad o ‘allan fan yna’ mae hefyd yn ei gofleidio trwy draddodiad y paentiad a fframir. Mae ffrynt y garafán yn dod yn ffrâm wylio seml a thrwyddo y dofir y tu allan na ellir ei ddofi.

Yn ystod y sioe, bydd Simon yn mynd â’r 'Sprite Musketeer' ar daith ar hyd ffordd o gwmpas Gogledd Cymru a gymerir gan niferoedd o baentwyr tirwedd sy’n ceisio cipio’r dirwedd. Yn ei hanfod, dogfeniad o’r daith hon fydd y gwaith yn yr oriel, wedi ei lifeirio ar draws y we a’i arddangos oddi mewn i g39. Mae Simon yn ailadrodd gweithred a ddigwyddodd mewn amser gwahanol; fframio’r dirwedd ond yn cwympo’n fyr o’r aruchel neu yn wir o natur o gwbl.

Os mai lle o edrych heb weld yw’r ddinas, yr arsylliad yn ddiwahaniaeth, fel edrych ar y teledu, cyfyngir profiad i’r hyn a ganfyddir yn hytrach na’r hyn yw. Os yw tirwedd yn unigol yn ei ddelwedd yna mae’r ddinas yn aml ei delwedd; mae’n fyth-newidiol fel microcosm o gymdeithas a hefyd fel lle ffisegol. Os mai newid yw’r ddinas yna cadwraeth yw’r wlad, a ddelir am byth yn ein psyche fel eidyl o lonyddwch.


Mae Cael ei Adeiladu yn rhedeg o Fawrth 9fed tan Fawrth 31ain ac mae ar agor 11am i 5.30 pm, Dydd Mercher tan ddydd Sadwrn.
Mae dau anerchiad oriel i gydfynd â’r arddangosfa, y cyntaf ar Fawrth 16eg am 6pm wedi ei draddodi gan Mike Tooby o Amgueddfa Genedlaethol Cymru a’r ail ar Fawrth 30ain am 6.30pm gan David Griffiths
MAE MYNEDIAD I’R ORIEL YN RHAD AC AM DDIM AC MAE CROESO I BAWB
e-bost: office@gallery39.fsnet.co.uk neu ymwelwch â’n gwefan yn: www.gallery39.fsnet.co.uk



Programme