Cymrodoriaeth g39 DAU

preview 25 August 2019

Mae'n bleser gan g39 gyhoeddi ail grŵp rhaglen Gymrodoriaeth g39 2020-22.
Yn dilyn galwad agored a phroses ddethol, rydym yn falch o groesawu Becca Thomas a Clare Charles - sy'n gweithio ar y cyd, Will Roberts, Rebecca Gould, Rhiannon Lowe a Freya Dooley.

Bydd yr artistiaid yn cymryd rhan mewn rhaglen strwythuredig o ymarfer stiwdio ac ymchwil hunangyfeiriedig yn g39 dros gyfnod o ddwy flynedd gyda chymorth ariannol. Mae'r rhaglen yn unigryw yng Nghymru ac yn ategu'r cymorth parhaus mae g39 yn ei gynnig i artistiaid yng Nghymru.

Menter yw Cymrodoriaeth g39 sy'n meithrin, ehangu ac yn cryfhau grŵp cyfoed o artistiaid dros raglen bum mlynedd. Mae'n ffurfio rhan o Raglen Artistiaid Freelands ochr yn ochr â mentrau cyfwerth a drefnir gan PS2 (Paragon Studios/Project Space) ym Melfast, Oriel Site yn Sheffield, ac Oriel Talbot Rice ym Mhrifysgol Caeredin. Byddant yn ymuno â'r grŵp cyntaf a ymunodd â'r rhaglen yn 2019 - Kelly Best, Ian Watson, Fern Thomas, Neasa Terry a Jennifer Taylor a fydd yn dechrau eu hail flwyddyn yn rhan o'r Gymrodoriaeth.

Mae’r Gymrodoriaeth yn cynnwys cyfres ddwys o weithdai a hyfforddiant, amser cyswllt gyda mentoriaid, artistiaid sy'n ymweld, curaduron a staff g39. Byddwn hefyd yn trefnu siaradwyr gwadd a darlithoedd, sesiynau grŵp ar gyfer cael beirniadaeth gan gyfoedion, diwrnodau cwrdd i ffwrdd, ymweliadau ymchwil, cyfleoedd rhwydweithio o bell a gweithgareddau cymdeithasol. Yn ogystal, bydd Rhaglen Artistiaid Freelands hefyd yn trefnu symposiwm blynyddol ac arddangosfa i bob un a gymerodd ran ar ddiwedd pob carfan ddwy flynedd.

Erbyn diwedd y rhaglen, bydd mwy nag ugain o artistiaid wedi cymryd rhan yng Nghymrodoriaeth g39.

DIWEDD



Becca Thomas a Clare Charles: Cyfarfu Clare Charles (ganwyd yng Nghasnewydd, yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd) a Becca Thomas (ganwyd ym Merthyr Tydfil, yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd) yn Llundain yn 2006 ac maent wedi gweithio gyda'i gilydd mewn sawl modd ers hynny. Mae eu hymchwil yn edrych ar sirioldeb, a'r gwaith o gynnal pobl eraill, yn ogystal â syniadau ynghylch rhyngweithio cymunedol, cymdeithasol a dinesig. Yn ddiweddar (2019), ymgymeron nhw â phreswyliad cyfranogol â chymorth yn Cove Park, yr Alban.
www.beccaandclareareartists.com/

Mae peintiadau Will Roberts (ganwyd yng Nghaerdydd lle mae'n byw ac yn gweithio) yn llawn naratif, ac yn cynnwys sawl cyfeiriad at ddigwyddiadau hanesyddol, diwylliant cyfoes, gwaith peintwyr eraill a'r cydadwaith rhwng y technolegau digidol ac ymarferion analog fel peintio. Astudiodd William Gelf Gain yn Ysgol Gelf Manceinion (BA, 1999) ac Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (MA, 2005). Mae ei waith yn cael ei arddangos ym Mostyn Agored ar hyn o bryd ac mae wedi'i ddethol gan Ben Borthwick i fod yn rhan o Plymouth Art Weekender.
www.williamjroberts.com

Rebecca Gould: Mae gwaith Rebecca Gould (ganwyd yn yr Alban, yn byw ac yn gweithio ar Ynys Môn) yn amrywio o gyfosodiadau, i fideo a thecstilau. Mae Gould yn delio â'r cysyniad o lafur, cyfalaf a defodau beunyddiol. Mae synnwyr o hanes gwrthrych, wrth ei ddiwreiddio o'i briod le mewn amser, yn ei dynnu o'i wreiddiau; mae hanes yn ei anweddu a'i gywasgu i rywbeth arall, gan gyfaddasu gwerth gwrthrych gan fethodoleg ddefodol amser, lle a chof. Astudiodd Gould ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd a Central Saint Martins, Llundain. Yn 2016, sefydlodd STUDIO CYBI ar y cyd gydag Iwan Lewis, prosiectau a arweinir gan yr artistiaid www.studiocybi.com
http://rebeccagould.co.uk

Rhiannon Lowe: Mae Rhiannon Lowe (ganwyd yn Swydd Efrog, yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd) yn creu lluniadau ac weithiau'n eu gosod o fewn amgylcheddau addurnol, lluniedig a domestig. Mae hefyd yn ysgrifennu a churadu, ac yn perfformio mewn digwyddiadau sain, gan weithio ar y berthynas rhwng y meysydd gwahanol hyn o ymarfer.https://www.axisweb.org/p/rhiannonlowe/#artwork

Freya Dooley: Mae Freya Dooley (ganwyd yn Swydd Gaerloyw, yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd) yn gweithio gydag ysgrifen, delweddau symudol, sain a pherfformiad. Mae ei gwaith yn cyfuno cyfeiriadau llenyddol a diwylliant-pop er mwyn creu naratifau a thraciau sain ansefydlog. Mae gan Freya ddiddordeb yn y llais fel cwndid rhwng y meddwl a'r corff; ynganiadau o'r tu fewn ar y tu fas. Mae Freya yn rhan o'r rhaglen New Writing with New Contemporaries ac mae ei harddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys Somewhere in the Crowd There's You, Eastside Projects, Birmingham, 2019 a The Song Settles Inside of the Body It Borrows, Oriel Chapter, Caerdydd, 2019. Derbyniodd Freya fwrsariaeth Jerwood Arts yn 2018.https://www.freyadooley.com/

Gwybodaeth am Raglen Artistiaid Freelands
Menter newydd ledled y DU yw Rhaglen Artistiaid Freelands, a sefydlwyd i gefnogi ac ehangu ecosystemau celfyddydol rhanbarthol trwy feithrin cyfleoedd cydweithio a pherthynas hirdymor rhwng artistiaid sy’n dod i’r amlwg a sefydliadau’r celfyddydau ledled y wlad.

Ei nod yw cefnogi grŵp o sefydliadau celfyddydol uchelgeisiol o bob cwr o'r DU i drawsffurfio dyfodol 80 o artistiaid sy'n dod i'r amlwg dros gyfnod o bum mlynedd. Yn ogystal, mae'n bwriadu gadael rhodd ehangach o ran addewid a phosibilrwydd yn yr ecosystemau celfyddydol hyn, yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd i ymgysylltu â'r cyhoedd.

Mae'r rhaglen newydd yn cynnig cyfanswm o £1.5m o gyllid dros bum mlynedd i bedwar sefydliad celfyddydol. Mae hyn yn cynnwys cyllideb raglennu gynhwysfawr ar gyfer pob sefydliad, gan gynnwys recriwtio staff ychwanegol lle bo angen. Mae'r cyllid hefyd yn cynnwys grantiau unigol ar gyfer pob artist a ddewisir gan y sefydliadau, yn ogystal â chostau teithio sefydliadol i symposiwm blynyddol yn y DU - er mwyn rhannu'r hyn a ddysgwyd ac arferion gorau ymysg y cyfranogwyr.



Programme