The Autobiography of a Super-Tramp

6 Mehefin - 25 Awst 2012

<b>Cerith Wyn Evans</b>, still from <i>Degrees of Blindness</i>, 1988, video, 19`, colour, sound. Courtesy of the artist and LUX, London
Cerith Wyn Evans, still from Degrees of Blindness, 1988, video, 19`, colour, sound. Courtesy of the artist and LUX, London

After a major relocation and reimagining of g39, we are pleased to present the first exhibition in our expansive new premises. In June we rolled up the roller shutters for the first time as an exhibition space with work from thirteen Welsh and Wales-based artists at various stages of their careers.


The Autobiography of A Super-Tramp looks at two different approaches to pursuing our goals – whether we focus our ambitions at home or further afield. It features those artists who embed themselves in a locality or scene and those who adopt the position of a romantic ‘Littlest Hobo’ outsider, their nomadic practice embracing globalisation and increasing inter-national homogeneity. The local is often seen as static and unique, a place of fixity, tradition and continuity. It is often contrasted with the global, a supposed realm of unfettered mobility and dynamism, of continuous transformation. Those artists who move toward these opportunities, wherever that takes them pit the lure of the unknown against the desire to remain.

Wedi cyfnod o adleoli ac ail greu g39, rydym yn falch o gyflwyno’r arddangosfa gyntaf yn ein safle eang newydd. Ym mis Mehefin, fe wnaethon ni agor ein drysau am y tro cyntaf fel gofod arddangos gyda gwaith gan dri ar ddeg o artistiaid Cymreig ac artistiaid sydd wedi’u sefydlu yng Nghymru, ac sydd ar wahanol lefelau yn eu gyrfa.


Mae The Autobiography of A Super-Tramp yn edrych ar ddwy ymagwedd wahanol tuag at wireddu ein breuddwydion - boed ein ffocws ar ein huchelgeisiau gartref neu yn bellach i ffwrdd. Mae’n cynnwys yr artistiaid hynny sy’n gwreiddio’u hunain mewn ardal neu olygfa a’r rhai sy’n gwisgo mantell y dieithryn rhamantaidd, rhyw ‘Littlest Hobo’, gyda’u harfer grwydrol yn cofleidio globaleiddio ac unffurfedd rhyng-genedlaethol cynyddol. Mae’r lleol yn aml yn cael ei weld yn statig ac unigryw, lle o sefydlogrwydd, traddodiad a pharhad. Mae’n aml yn cael ei gyferbynnu â’r byd-eang, teyrnas y tybir iddi fod yn un sy’n llawn symudedd a deinamigrwydd o drawsnewid parhaus. I’r artistiaid hynny sy’n gwyro at y cyfleoedd hyn, ble bynnag yr eir hynny â hwy, mae’n frwydr rhwng atyniad yr hyn sy’n ddieithr a’r ysfa i aros.

Daw'r teitl The Autobiography of A Super-Tramp o deitl nofel gan W H Davies a gyhoeddwyd yn 1908. Gadawodd Davies ei ardal enedigol yn ne Cymru ac anelodd am America, gan deithio ar draws America i Ganada ar drenau i chwilio am gyfleoedd, a hapusrwydd mewn nifer o ffyrdd, cyn dychwelyd i'r DU yn y pen draw. Mae hanesion ei daith wedi cael eu nodi fel saga hir, yn debyg i Don Quixote. Mae'r penodau'n creu darlun o ddyn a oedd o'r farn bod sefyll yn yr unfan a syllu yn ddymunol, ond roedd yr awydd i barhau i deithio yn holl bresennol.

Ynghyd â'r arddangosfa, bydd Unit# 1, rhaglen dreigl newydd o arddangosfeydd a phrosiectau yn cyflwyno gwaith newydd a diweddar gan dri artist drwy gydol The Autobiography of a Super-Tramp.

Mae’r artistiaid yn cynnwys: S Mark Gubb, Rachel Calder, Paul Emmanuel, Matthews ac Allen, Peter Finnemore, Paul R Jones, Rebecca Gould, David Shepherd, Huw Andrews, Owen Martell & Simon Proffitt, Bedwyr Williams a Cerith Wyn Evans.

  • <b>Paul R Jones</b>, <i>oraculum petere</i>
  • <b>Paul Emmanuel</b>, <i>Great Abyss</i> 2007
  • <b>S Mark Gubb</b>, <i>Everybody Was Happy</i>
  • <b>matthews and allen</b>, <i>Untitled</i>, 2011
  • <b>Rebecca Gould</b>, <i>Native Rituals</i>
  • <b>Bedwyr WIlliams</b>
  • <b>Cerith Wyn Evans</b>, still from <i>Degrees of Blindness</i>, 1988, video, 19`, colour, sound. Courtesy of the artist and LUX, London
  • <b>Owen Martell and Simon Proffitt</b>, <i>Bala</i>, 2008
  • <b>Peter Finnemore</b>, <i>Globe</i>, photographic print.

Programme