The Golden Record

16 Mai - 20 Mehefin 2009

G39 is pleased to present The Golden Record, an ambitious and far-reaching curatorial project by the artist Mel Brimfield. It presents over 130 of the UK’s most prominent artists, including Bedwyr Williams, Paul Becker, Helen Sear, S Mark Gubb, Holly Davey and Miranda Whall. The artists have offered their responses to humanity’s most ambitious outreach project, from painterly reworkings of nostalgic photography by Richard Moon, to Simon Le Ruez’s sculpture of forbidden charms, and work from acerbic fictitious duo Bob and Roberta Smith. For the project Brimfield has invited a selection of the UK’s high-profile comedians to contribute alternative greetings to our closest extraterrestrial neighbours.

'...an entertaining fusion of art and comedy that's anything but down to earth' **** Metro.

Mae g39 yn falch o gyflwyno The Golden Record, prosiect curadurol uchelgeisiol a phell gyrhaeddol gan yr artist Mel Brimfield. Mae'n cyflwyno dros 130 o artistiaid amlycaf y DU, yn cynnwys Bedwyr Williams, Paul Becker, Helen Sear, S Mark Gubb, Holly Davey a Miranda Whall. Mae'r artistiaid wedi cynnig eu hymatebion i brosiect allgymorth mwyaf uchelgeisiol y ddynoliaeth, o Richard Moon yn ailwampio ffotograffau hiraethus a chreu paentiadau, i Simon Le Ruez yn creu cerflun o swynion gwaharddedig, a gwaith gan y deuawd dychmygol, coeglyd, Bob a Roberta Smith. Ar gyfer y prosiect, mae Brimfield wedi gwahodd detholiad o ddigrifwyr enwocaf y DU i roi cyfarchion amgen i'n cymdogion allfydol agosaf.

'...ymasiad difyr o gelf a chomedi sy'n wahanol i bopeth arall ar wyneb y ddaear' **** Metro.


Mae'r prosiect yn fersiwn newydd eironig a chyfoes o The Golden Record, sef record ffonograff a oedd ar y ddwy long ofod Voyager a lansiwyd yn 1977. Mae'r Golden Record gwreiddiol, sef disg gopr plât aur 12 modfedd sy'n cynnwys detholiad o ddarnau o gerddoriaeth, sain, a delweddau a ddewiswyd i gyfleu amrywiaeth bywyd a diwylliant ar y Ddaear, ar gyfer unrhyw fywyd arallfydol deallus, neu ddynion yn y dyfodol pell, a fydd yn dod ar ei draws.

Casglwyd 116 o ddelweddau o'r ddaear ar gyfer The Golden Record gan Carl Sagan a'i dȋm o wyddonwyr NASA yn 1977. Yn 2008, gwahoddodd Brimfield 116 o artistiaid i greu darn o waith celf a oedd yn cyfateb â theitl ar y rhestr, sy'n cynnwys rhyfeddodau fel Forest Scene with Mushrooms, House Interior with Artist a Fire, a Old Man with Beard and Glasses (mae'r detholiad llawn o ddelweddau i'w gweld yn http://goldenrecord.org/). Mae'r gwaith terfynol i gyd yn dilyn maint safonol sy'n mesur 31.5 x 31.5 cm - sef mesuriadau clawr record finyl.

Mae cyfres o fideos byr wedi cael eu cynhyrchu hefyd i ddisodli'r 55 o gyfarchion sain gwreiddiol mewn ieithoedd gwahanol. Mae'r rhain yn cynnwys digrifwyr enwog y DU yn cynnwys Simon Munnery, Kevin Eldon, John Hegley, Wil Hodgson a Robin Ince sy'n archwilio cysyniadau daearol fel bod yn Gymro, egwyddor ansicrwydd Heisenberg, bingo a chwpanau wy.

Yn ogystal â'r artistiaid a welir ar wefan g39, bu'r bobl ganlynol yn cyfrannu hefyd: Pamela Brabants, Gordon Cheung, Ruth Claxton, Layla Curtis, Adam Dant, Brian Dewan, Geraint Evans, Leo Fitzmaurice, Rachel Goodyear, Hideko Inoue, Tim Machin, Andrew ManiaSally O’Reilly, Rachel Pantechnicon, Paul Rooney, Bob and Roberta Smith, and Jessica Voorsanger.

Programme