
PARTICIPANTS: AJ STOCKWELL, DHRUV JANI, DR JONATHAN PRIOR, FERN THOMAS
KATCONA DESIGN CELL, NEASA TERRY, RUJUTA RAO, SALIK ANSARI
PRODUCED BY: JESS MATHEWS, MELISSA HINKIN
PROJECT PARTNERS: CONA FOUNDATION
Mae'r Rejoinders yn rhwydwaith ymchwil rhwng Cymru ac India sy'n archwilio prosesau cydweithrediadol. Mae'n brosiect ymchwiliadol, arbrofol a churadurol. Mae'r grŵp ymchwil wedi'i ffurfio o gydweithredwyr creadigol a beirniadol sydd ag arferion amrywiol a diddordeb cyffredin mewn cyfnewid.
Bydd The Rejoinders yn hyblyg a chwareus yn eu hymagwedd tuag at ganlyniadau'r cydweithrediad hwn, ond rhagwelir y bydd ganddynt y potensial i gynnwys ffurfiau amrywiol o sgyrsiau cydweithrediadol – llyfrgell, taith fws i artistiaid ym mhob dinas, dwy ardd gymunedol, pryd o fwyd ar y cyd, cyfnewid persawr – y bydd y naill neu'r llall neu bob un yn cael ei leoli a'i wireddu gyda chymorth g39.
Bydd y grŵp ymchwil yn creu fframwaith o gyfnewid rhwng dwy wlad a dwy ddinas: bydd platfform gwe cydweithrediadol yn ysgogi a chefnogi deialog rhwng India a Chymru ac yn gweithredu fel ystorfa ar gyfer deunydd ymchwil y grŵp. O'r naratifau, yr athroniaethau a’r pedagogau aml-haen sy'n deillio o'r platfform hwn, mae'r grŵp am i'r model curadurol cydweithredol ddod i'r amlwg – system ar gyfer gweithredu sy'n bodoli rhywle rhwng disgyblaeth unigol ac ymchwil sy'n cael ei harwain ar sail ymarfer.
Mae The Rejoinders yn rhan o Flwyddyn Diwylliant y DU / India 2017, sydd mewn partneriaeth â Sefydliad CONA, Mumbai, ac a wnaeth gefnogi Prifysgol Caerwrangon.

Copyright © g39 2025 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants