Spirit Level

1 Gorffennaf - 5 Awst 2006

Yn dod â thymor Show One of Each o arddangosfeydd unigol gan artistiaid sy’n dod i'r amlwg y mae Spirit Level. Mae ymarfer ymchwilio artist lensys Sara Fletcher yn ymchwilio i'n byd rhesymol hysbys a byd arall anhysbys drwy hud a rhesymeg, crefyddusrwydd a thechnoleg.


Mae corff gwaith newydd Fletcher yn delio â phŵer gweddïo a'r meddwl. Mae ei gwaith yn cynnwys Credo, sef cyfres o gyfweliadau gyda phobl o wahanol grefyddau yn archwilio'u ffydd. Mae Amateur Thoughtography yn arbrawf i geisio trosglwyddo rhai cofion ar ffilm drwy bŵer y meddwl. Mae The Utterly Self-sufficient, Unchanging Reality of the Things Surrounding Her Began to Depress Agnes yn archwiliad i bwerau seico-cinetig.

Mae gan waith Fletcher empathi a hoffter am ei phynciau sy'n ei gwneud yn archwiliad llawer mwy diffuant o gred. Mae ei gwaith yn cynnig sianel iddi siarad am atgofion, colled, cyfyngiad a chuddiad. Mae'n darganfod ei mynegiant yn ei gwaith i siarad am farwolaeth a phrofedigaeth ond yn benodol mae ei diddordeb yn y ffyrdd yr ydym yn defnyddio technoleg i geisio teithio ymhellach na'r hyn mae ein synhwyrau corfforol yn ei ganiatáu mewn ymgais i ddarganfod yr hyn a allai orwedd ar ymylon, a'r tu hwnt, i'n bywydau meidrol.

Programme