Box

GOFOD CELF GYFOES DROS DRO
g39 Lon y Felin Caerdydd CF10 1FH

Bocs
keith hardwick victoria tillotson ali roche

Mae Bocs yn archwiliad i mewn i wagleoedd ac amserau domestig a chyfarwydd sy’n berthnasol i dri artist. Mae’r cartref a‘i ddylanwad ar yr unigolyn yn ffurfio llinyn cadarn trwy’r arddangosfa ac mae hyn yn nodweddiadol iawn yn yr holl waith a arddangosir, ond am resymau gwahanol iawn. Mae ein cartref yn bersonol iawn ac yn beth penodol iawn i bob un ohonom, ac mewn rhai agweddau mae’n ymestyniad o’n personoliaethau; ar rai agweddau eraill mae’n adeiladwaith na allwn fyth fod yn gwbl gysurus ynddo. Trwy gydol yr arddangosfa, mae’r artistiaid yn defnyddio tameidiau o’r cartref er mwyn gwneud ymholiadau i mewn i adnabyddiaeth, rhyddid a chyfyngiad, a chynrychiolaeth.

Mae fideo Victoria Tillotson, From Room to Room yn ddilyniant prydferth o ran ei arsylwadau, o ddigwyddiadau cyffredin yn nhy’r artist yn ystod dathliadau wedi’r Nadolig. Canolbwynt y gwaith yw Bradley, y bochdew, sy’n symud o gwmpas y cartref mewn pelen blastig bochdew dryloyw. Er ei bod wedi ei llunio er mwyn creu amgylchedd diogel lle y gall grwydro’n rhydd, mewn gwirionedd, mae’n rhwystr di-ben-draw sy’n achosi i Bradley fynd yn sownd dan gadeiriau, bwrw i mewn i fyrddau a bwrw i mewn i anifeiliaid a phobl fel ei gilydd. Mae’r dilyniant ar adegau yn ddoniol, ac adegau eraill yn boenus o flin wrth i’r anifail geisio oresgyn ei sefyllfa.

Mae gwaith Vicki yn defnyddio’r digwyddiad cymharol gyffredin hwn i bortreadu pryderon mwy cymhleth oddi mewn i fodolaeth dynion. “Mae trawsddweud cynhenid ym modolaeth ddynol – rhyddid a chyfyngiad. Gall yr ymdeimlad fod rhywun yn rhydd ac fel petai dan reolaeth ddylanwadu ar newid, gan effeithio ar ddigwyddiadau bywyd. Fodd bynnag, ar yr un pryd mae patrwm rhagordeiniedig i bopeth y gallwn ddewis ei wneud a hynny’n rydd. Mae From Room to Room yn archwilio’r delfryd hwn trwy gyd-destun cymdeithasol syml.”

Mae’r syniad o fodolaeth rhagordeiniedig neu gyfyngedig yn dod trwodd hefyd yng ngwaith Keith Hardwick ar y llawr cyntaf ar dop yr ail res o risiau. “Mae fy ngwaith yn defnyddio’r amgylchedd domestig a minnau fel locws ac oddi yno archwilio materion o gwmpas bodolaeth ddynol a rhyngberthynas oddi mewn i’r fath arenâu â noethni, rhywioldeb dynol a chenedl, a’u heffeithiau cymdeithasol a seicolegol ar yr unigolyn. Mae gan yr hyn yr wyf yn ei ystyried yn adnabyddiaeth rywbeth i’w wneud â fy hunan yn perfformio wrth i mi ffantasïo, tra fy mod yn meddwl y gall hwn fod yn unrhyw ffantasi, mae’n rhaid ei fod yn ffantasi sy’n gredadwy i fi, fy mod yn fath o ffuglen bersonol. Mae wedi ei gyfyngu felly gan yr hyn yr wyf yn canfod fy mod, ond hefyd yr hyn y credaf y mae’n bosibl i mi ei fod. Mae hyn wrth gwrs yn gyfyngiad mawr ac yn un a wyrir gan gefndir, cenedl, dosbarth, profiad, oed ayb.”
Mae Keith yn defnyddio delweddaeth o’i gartref am lawer o resymau, yn enwedig y modd y mae’r cartref yn ffurfio’r hunan, a’r teimlad anochel o fod wedi colli rhan o’r adnabyddiaeth hynny wrth symud ty.

Yn y cyfamser, ar yr ail lawr, mae fideo gan Ali Roche yn canolbwyntio mwy ar gynrychiolaeth o ddylanwad sylfaenol ar sut yr ydym yn dehongli’r byd. Mae Anamorphosis II yn dangos digwyddiad go iawn a gamddehonglir trwy ei gyflwyniad. Yr ydym yn dilyn disgyniad plymiwr awyr o’i safle yn y nen i’w lanio yn y pen draw mewn iard gefn. “Fe’n gwahoddir i ddod yn rhan o’r digwyddiad, i ymgyfrannu a derbyn naratif y ffilm yn yr un modd ag yr ydym yn cydgynllwynio a bodoli y tu mewn i’n breuddwydio lliw dydd ein hunain. Mae trywyddau meddwl, delweddau a synfyfyrdodau yn ymlwybro trwy ein meddyliau. Wrth iddynt gael eu mwytho mewn ymwybod, gosodir ffurf ar freuddwydion liw dydd.”

Y pedwerydd yw’r arddangosfa hon mewn cyfres o chwech sy’n digwydd trwy gydol 2000 gyda chefnogaeth adran Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae g39 yn flaengarwch nid-am-elw a arweinir gan artistiaid.

Programme