Ffresh 3

GOFOD CELF GYFOES DROS-DRO

icymraeg g39 Lon y Felin, Caerdydd CF10 1FH

Ffresh 3

Llawr gwaelod - Rachelle Viader Knowles Nomads Land (fideo); Neale Howells (darlun)
Grisffordd – Philippa Lawrence Swarn (taciau carped); Andy Fung (paentiad)
Llawr cyntaf – Siôn Dafydd ac Alwen Thomas. Llawr uchaf – Gordon Dalton

“I think I’m dumb, or maybe just happy. Think I’m just happy.”
Dumb, Kurt Cobain, 1993.


Mae unrhyw sioe grwp gyda ymgais agored yn fwystfil peryglus: mae’n crwydro’r strydoedd, yn hawlio’r tal mynediad gan yr artistiaid, ac wedyn yn eu llyncu, cyn eu poeri nhw mas mewn annibendod tanbaid a dryslyd. Er hyn, mae Ffresh 3 wedi datblygu’n greadur llawer mwy soffistigedig. Doedd dim ffi cais ac mae’r panel wedi dewis gwaith sydd, er yn amrywiol, yn rhannu themau a phryderon sy’n cymeradwyo’r grwp i gynulleidfa fwy ac yn amlygu perspectif ffres ar ymarfer celf cyfoes o Gymru.

Cymru sy’n darparu’r cyswllt amlwg rhwng yr artistiaid. Mae rhai’n Gymry, mae rhai wedi byw yma ers amser maith ac mae rhai newydd gyraedd. Mae’r ddau oriel yr un mor bwysig. Erbyn hyn mae Chapter yn sefydliedig yn y D.U ac yn rhyngwladol. Mae g39 yn ychwanegiad mwy diweddar ac hanfodol i’r sîn gelf, gan fod yn un o’r orielau prin a leolwyd yng nghanol y ddinas.

Buodd y sîn gelf yng Nghymru yn anobeithiol o optimistig yn ystod y degawd diwethaf, er fod yr atalfeydd a threialon ond wedi cynyddu ac atgyfnerthu uchelgais yr artistiaid. Mae yna botensial gyda’r sîn gelf yng Nghymru i gyflawni yr un llwyddiant a sydd yn yr Alban. Yn ogystal â’r pellter, yn gorfforol ac yn feddyliol, o Lundain, mae gan y ddwy wlad llywodraethau newydd, yn dwyn optimistiaeth newydd yn eu hol - gyda phinsiad o sceptigaeth wrth gwrs. Gallai dyn gweud bod y teimlad hwn yn rhedeg trwy waith yr artistiaid yn Ffresh 3.

Mae artistiaid yr arddangosfa o’r un genhedlaeth hefyd, wedi eu geni rhwng 1965 a 1975. Fe allai hyn fod yn beth positif a negatif, ond mae’n ffaith pwysig eu bod nhw i gyd yn rhannu’r un cyfeiriadau diwylliannol, profiadau ac ymgeisiadau. Fel grwp maent wedi byw trwy newidiadau cyflym, yn cofio diwedd y 60au a’r 70au cynnar, bydden nhw i gyd wedi profi blas bach o Punk cyn diodde’ gormodeddau adolesent Heavy Metal neu’r New Romantics. Byddai obsesiwn gyda mwmian melancolaidd The Smiths wedi’u cadw nhw yn eu hystafelloedd gwely nes i Acid House a Madchester eu gyrru nhw allan eto.

Yn ystod y degawd diweddaraf bydden nhw wedi byw trwy daith retro o bob symudiad - yr ofnadwy (er yn ddibyniol) I Love 1970s, 80s, 90s - buon nhw wedi’u peledu gan daith hiraethus y genedl a byddai’n hawdd iddynt deimlo fod y gorau y tu ol iddyn nhw. Fel artistiaid rhaid iddyn nhw’n gwneud y gorau o beth bynnag sydd ganddyn nhw, er mwyn ceisio i’w gwneud yn well. Fel cariadon yn chwalu, dydyn nhw ddim yn siwr beth maent wedi colli, ac mae nhw hefyd yn ansicr am beth rydynt yn chwilio. Ond edrych ydyn nhw.

Enghraifft dda o hyn yw gwaith Richard Higlett. Mae e wedi ailgreu bwrdd sylw cymunedol yn Chapter. Ond, mae’r taflenni a gwybodaeth i gyd yn ddiffocws, a’r bwrdd yn ddiwerth. Ni fydd y gath ‘ar goll’ (y geiriau egwan bron yn anweledig) yn cael ei dychwelyd byth, oherwydd nid yw’r rhif ffôn yn glir. A ni fyddwch chi’n cael yr iachad ysbrydol yna yr oeddech chi eisiau os nad allwch chi ddehongli ble cynnhelir y dosbarth. Rydych chi wedi’ch dal mewn gwlad estron, yn gorfod dibynnu ar eich adnoddau chi’ich hunan

Cewch chi ‘ch rhoi mewn sefyllfa tebyg ( er yn danddaearol) gan Christopher Brown. Dangosir ei dafluniad ar nenfwd Chapter cerddwyr, pramiau a beicwyr yn pasio dros gril palmant. Nid sut y cyrraeddoch chi lawr yna sy’n bwysig, mae’r artist jyst wedi’ch gollwng chi yno. Fe gewch chi deimlad rhagargoelus o glawstroffobia wrth i chi sefyll yna’n gwylio bywyd yn digwydd hebddoch.

Yn g39, archwilir tafluniad fideo Sion Dafydd ac Alwyn Thomas ein hofnau ynglyn â marwolaeth yr iaith Gymraeg. Dangosir hyn yr artistiad yn arsgrifio ar adfeilion adeilad y frawddeg “mae’n rhaid tawelu’r iaith Gymraeg”. Mae hyn yn cyfeirio at gofnodau ysgrifenedig o bobol cymraeg yn cael eu carcharu am siarad cymraeg, a phlant yn cael eu cosbi gan awdurdodau ysgol am siarad eu mamiaith. Mae’r artistiad yn iawn i bwysleisio taw nage dadl hiliol yw hi, ond un ieithyddol ac un y dylai effeithio pob Cymro a Chymraes, beth bynnag yw eu barn gwleidyddol

Mae Born and Bred in Wales gan Meriel Herbert yn ganmoliaeth naturiol i waith Dafydd a Thomas. Yn ei fideo, gwelir yr artist yn ceisio canu’r anthem Genedlaethol Gymraeg wrth iddi wrando arni ar bâr o ffonau-pen. Cymraes yw hi, ond mae’n ddi-Gymraeg. Ydy diffyg gwybodaeth yr artist ynglyn â’r iaith Gymraeg yn dangos diffyg unrhyw falchder ganddi am ei threftadaeth, neu yw ei cheisiadiau yn arwydd o gysegriad a pharch? Darperir unawdydd fenywaidd, sy’n perfformio’r anthem, cyd-destun arall, wrth ystyried taw côrau dynion neu grwpiau mawr mewn stadia rygbi a chenir y gan yn arferol.

Cawn ni ein rhoi mewn amgylchedd gwrol draddodiadol gan Jennifer Savage hefyd - sef ‘tafarn yr hen ddyn’. Yn ystod yr arddangosfa, trawsffurfiwyd Savage gofod rhong a syml y bar yn Chapter i mewn i rywbeth llawer mwy cyfforddus a llond atgofion. Ond, mae holl greiriau’r dafarn, fel y carped sy’n fudr ‘da cwrw, lleni llychlyd, addurnweithiau pres ac anifeiliaid wedi’u stwffio, ar gael trwy gwmni sy’n darparu dodrefn i dafarnau. Os yw hwn yn ‘authentig’, dilysrwydd ffug yw e – ac yn ymylu’n glyfar ar ystrydeb.

Defnydda waith Gordon Dalton ystrydeb hefyd, trwy arbrofi gyda gofodau go iawn a ffugiol. Ar gyfer Ffresh 3 mae e wedi goryrru trwy dros gant o ffilmiau, yn chwilio am chwynnyn-twmbwl yn chwythu ar draws y sgrin. Ond, er fod pawb yn honni eu bod nhw wedi’u gweld nhw, mae Dalton wedi darganfod eu bod nhw bron byth yn ymddangos unrhywle mewn gwirionedd. Wrth ddolennu’r enghreifftau ddarganfyddodd e, mae Dalton yn profocio disgwyliad y gwylwyr o’u gweld nhw. Ar yr un pryd eistedda tri darn o chwynnyn-twmbwl go iawn ar y llawr wedi’u prynu ar y rhyngrwyd, prawf eu bod nhw wir yn bodoli. Mae gan y chwiliad hir a rhamantus yma ochr melancolaidd a lletwith, sy’n cael ei adlewyrchu gan y chwyn go iawn yn gwylio’u ‘ffrindiau’ yn hedfan heibio’r sgrin.

Mewn ffordd debyg, mae Stuart Lee yn defnyddio y confensiynau o ffotograffiaeth bywyd wyllt ddogfennol, yn cynyddu’ch disgwyliadau o’r narratif trwy’r defnydd o symudiad araf a cherddoriaeth. Nid oes yna’r adroddiad arferol dros ei dafluniad o forlo, sy’n eich caniatáu chi i synfyfyrio dros bywyd morlo wedi’i dal mewn amgylchedd ffug ac artiffisial ( fel tafarn Savage). Mae hyn yn rhoi yr ymwelydd yn y sefyllfa anghyfforddus o fod yn wyliwr breintiedig – a’r môr wedi ei leihau i fod yn adloniant gwag.

Dangosir anifeiliaid mewn ffordd eithaf gwahanol ym mheintiadau Paul Becker. Gan actio fel rhyw fath o “geffyl Trojan ciwt”, mae ei anifeiliaid yn deimladol ar y tu allan ond yn cynnwys rhywbeth llawer mwy tywyll a dirgelaidd. Mae peintiadau Becker yn gymysgedd rhyfedd o arswyd a dolur calon - ble mae ‘The Evil Dead’ yn cwrdd â ‘Brief Encounter’. Sut gallwn ni ddeall darlun o gadnawon yn mynd i lawr ar ddynion, neu o ddraenogod wedi’u lapio’n amdiffynnol o gwmpas plentyn. Defnyddia Becker ddelweddiaeth hunllefol yn fedrus, wrth negodi perthynasau neu’u habsenoldeb yn ei waith.

Mae yna elfen iasol ac anesmwyth i ymyriadau Philippa Lawrence. Mae ei Storm yn fás o daciau carped glas wedi’u denu at y golau fel pryfed. Mae natur ddiflas a chyffredin y taciau nawr wedi’u swyno gan arswyd a phrydferthwch wrth iddyn nhw ymlusgo o gwmpas gofodau disylw yn y ddwy oriel.

Mae gwaith Andy Fung hefyd yn meddianu gofod a gaiff ei anghofio’n aml, sef y grisffordd. Edrychir ei furluniau, er eu bod nhw wedi eu peintio gan law, fel petai nhw wedi eu cynhyrchu gan cyborg celf-bop. Wedi’u peintio dros y bythefnos cyn agoriad y sioe, fe dŵf ei waith yn organig i fyny o’r llawr cyntaf i’r trydydd yn g39. Yn organig ac yn slic, mae ei waith yn gawdel rheolaidd lle all hyd yn oed blobiau a sblashiau fod yn goeth. Ymdoddiad o beintio a graffiti isffyrdd America.

Fe gyferbynnir hyn â’r mas ymledol o sgriblan yng ngwaith Neale Howells. Wedi ysbrydoli gan graffiti, mae’n ymddangos fod ei baentiadau a lluniadau yn cyfeirio at deledu , at glebran a gipglywyd, ac at ddarnau o wybodaeth a glywyd tra’n diwnio’i radio. Y canlyniad yw mas o farciau sy’n gadael y gwyliwr yn ansicr sut a phryd i symud ymlaen. Fel Lawrence a Fung, mae gwaith Howells yn teimlo fel rhywbeth byw gyda bywyd ei hunan

Tra dyfia gwaith y tri artist uchod, ymddengys gwaith David Cushway fel petai’n diflannu i ddim. Yn ei waith cynharach, adeiladodd Cushway pennau neu botiau clai cyn eu suddo nhw mewn dwr, a’u recordio nhw ar fideo wrth iddynt ddatgyfannu’n ddim. Ar gyfer Ffresh3, mae Cushway (a astudiodd i fod yn grochenydd) wedi creu castiau o’i ddanedd ei hun allan o dsieni asgwrn .Wrth eu hailgastio nhw dro ar ol tro fe ddôn nhw’n llai ac yn llai nes iddynt edrych fel un dant unigol, cyn mynd bron yn amhosib i adnabod.

Ysbeilir darn Angharad Pearce Jones i Ffresh3 amgylchedd gwrywol. Mae Jones wedi gweithio yn y diwydiannau trwm lle gafodd llond bol o noethni’r flwyddiaduron ‘pin-up’ hollbresennol. Cymerodd un o’r lluniau yma ( torso noeth gyda twl belt) a’i chwyddo’n anferth. Mae hwn wedi ei amgylchynu gan strwythur scaffold sydd wedi’i addurnio gyda phapur wal, a sy’n edrych yn wan ac yn drist mewn cymhariaeth. Gweithir Jones gyda’r ddelwedd newidiol o noethrwydd menywod yn y gweithle, o ‘pin-ups’ i gylchgronnau dynion i gyffro cyfoes y sgrin gyfrifadur.

Dynion hefyd yw prif bwnc Nomads Land gan Rachelle Viader Knowles. Mae gosodiad tri sgrin yn dangos clipiau ymsymudiad araf o ffilmiau Ail Ryfel y Byd. Yn fwy spesiffig, mae’n dangos ‘Arwr’ y ffilm yn cerdded at ei farwolaeth yn ddiddiwedd, gyda’i ddienyddiwr fel ei unig gwmni. Dangosa y sgrin canol clip o ‘Saving Private Ryan’ drosodd a throsodd, y darn ble mae cymeriad y milwr ifanc yn cyfundoddi gyda fe’i hun fel hen ddyn. Mae gwaith Knowles wedi’i ymglymu a’r ffordd mae ffuglen yn gweithio fel tyst i’r gorffennol, wrth i gysylltiadau ac atgofion teuluol fynd ar goll.

Ar nodyn ysgafnach, caiff goddrychau gwaith Michael Cousin eu perswadio i fynd ar goll ar daith rhyfeddach fyth. Yn defnyddio bwyd adar, trodd Cousin i fod yn ‘Pied Piper’ i Gaerdydd, wrth iddo arwain casgliad o golomennod o gwmpas canol y dref. Aeth Cousin â’r ‘fermin’ i siopa ac i weld golygfeydd y ddinas cyn mynd a nhw i’r Amgueddfa Genedlaethol , ble, (yn ôl beth a glywsom ni), roedd well ‘da nhw Van Gogh na Chagall. Yn fuan ar ôl cyrraedd, gadawodd Cousin ar frys.

Mae yna sawl cysylltiad gweledol rhwng yr artistiaid yn Ffresh 3. Yn bendant gwelir lawer o anifeiliaid - gyda morloi drist (Stuart Lee), cadnawon chwaraeus (Paul Becker), colomennod brwnt (Michael Cousin) a digonedd o bryfed dychmygol (Philippa Lawrence) yn popio i fyny; gofodau go iawn a ffugiol - tirluniau llychlyd (Gordon Dalton), tafarnau llawn mwy o lwch (Jennifer Savage), selerau tanddaearol (Christopher Brown) a golygfeydd o ffilmiau Ail Ryfel y Byd (Rachael Viader Knowles); marciau organig (Neale Howells ac Andy Fung) a delweddau o hunaniaeth fel y gair ysgrifenedig ( Sion Thomas ac Alwyn Davies), anthemau cenedlaethol (Meriel Herbert), byrddau slyw cymunedol ( Richard Higlett), ystyrdebau fenywaidd (Pearce Jones) ac heb anghofio’r dannedd (David Cushway). Mae’r gwaith yn fwyn iawn ac yn rhamantus, heb unrhyw ofn o fod yn hiraethus neu’n deimladol wrth gadw un llygad ar y dyfodol.

Fe allai’r colomennod direidus yma fod yr artistaid yn Ffresh 3 - yn cael eu harwain o gwmpas i fwydo ar friwsion diwylliant poblogaidd, wrth iddynt wneud tipyn bach o siopa ac yn y cyfamser ymweld â’r atyniadau cyn cael eu gadael yn yr amgueddfa i greu hwyl eu hunain. Mae’n swnio’n dwp - ond wi’n credu bod nhw jyst yn hapus.

Programme