nonsequences

Ian Watson, 2021
Ian Watson, 2021





Y stiwdio.
Amser yn y stiwdio.
Dw i angen fwy o amser yn y stiwdio.
Dw i angen gwneud gwaith.
Dw i yn gwaith.
Dw i angen ei wneud o weithio.
Fy ngwaith yw fy ngwaith.

Mae Nonsequences yn sioe a goroesodd popeth a daflwyd ati'r llynedd. Cafodd ei gohirio, bron ei chanslo, a’i hail-drefnu. Mae’n nodi rhan olaf ohiriedig Cymrodoriaeth g39 gyda gwaith a syniadau newydd ar droed gan Kelly Best, Ian Watson, Fern Thomas a Jennifer Taylor. Gobeithiwn y byddwn yn gallu agor ein drysau i’r sioe rhywbryd yn ystod mis Mawrth. Ar gyfer newyddion, ewch i g39.org.

Weithiau mae’r ffin rhwng y galeri a’r stiwdio yn un sefydlog. Mae rhai lleoliadau dal i weithredu fel petai’r rhagolwg yn hafal i noson agoriadol perfformiad llwyfan. Mae’r galeri yn cael ei lanhau, sgubo a’i atgyffwrdd ac yn arogli o baent. Mae’r llwyfan wedi ei osod a phopeth yn ei le. Y dadleniad mawr.

Mae’r holl ymarferion ar gyfer y foment hon. Yr ymarferion, y profion, a’r penderfyniadau. Digroeni'r hyn sy’n ddiangen, yr hyn sydd efallai yn ddiangen o ddryslyd. Trafodaethau, cyfaddawdau, newidiadau trywydd a chyfyngiadau cyllidol, cyfyngiadau gofod ac amser i arddangos ar lwyfan yr hyn sydd wedi ei greu. Erbyn hyn, ddylai bod ganddi naratif curadurol neu stori ei hun. Dylai wneud synnwyr. Mae’n rhaid ei bod hi’n gydlynol.

Ond beth i wneud os nad oes sioe, dim ond ymarferion? Beth os yw’r sioe o hyd yn cael ei gohirio? Beth am y cynnig na chaiff byth ei chomisiynu? Beth os nad oes cynulleidfa, neu os dyw’r gwaith ddim yn gweithio? Beth am y trywydd newidiol, y disymud, y sefyll yn stond? Beth am y pethau yma a phrofwyd ar y daith? Hen syniadau, neu awgrymiadau oedd yn rhy gymhleth a chwympodd yn fflat neu aeth glec fel swigen?



Y ffilm hon ei wneud yn ystod y mis. Yn anffodus nid oedd erioed ar agor i'r cyhoedd.

Dyma’r profion a’r newidiadau sydd wedi ein tywys i’r fan hon. Maent yn aml yn gynhwysion o waith arall. Weithiau maent yn dychwelyd oherwydd nid oedd yn bosib eu datrys, weithiau maent yn datblygu i fod yn ddarnau eraill o waith. Mae’n bosib teimlai hyn fel ailadrodd, ond rydym yn darganfod ein hodl, ein gwyddor gyda phob ailadroddiad newydd. Weithiau rydym yn troi cefn arnynt neu’n sylweddoli eu bod yn rhwystredig. Neu’n syml, nid ein rhai ni ydynt. Dyma beth yw’r stiwdio.

Cafodd y rhaglen Cymrodoriaeth yn g39 ei greu i gefnogi a datblygu ymarferiadau stiwdio. Cafodd ei siapio i hybu meddylfryd archwiliedig, ac heb, o reidrwydd, man terfyn sef arddangosfa. Mae hyn yn ymddangos fel peth dymunol i artistiaid sydd byth a beunydd yn pwyso a mesur amser, gwaith a bywydau ansicr ond gall hefyd godi gymaint o gwestiynau ag atebion. Pryd mae gwybod pryd i roi’r gorau iddi pan does dim man gorffen? Beth sy’n digwydd i’r gwaith na welir olau dydd? Os yw bopeth am y broses, datblygiad a gweithgaredd sut mae peidio teimlo’n llonydd, glynedig neu’n oddefgar wrth chwarae? Gobeithiwn caiff yr artistiaid ofod i ddatblygu eu hymarferiadau tu allan i’r strwythur sy’n aml yn magu dryswch rhwng ymarferiad a gyrfa.

Mae’r stiwdio yn teimlo fel ei fod yn gweithio ar wahân i’r sioe, yr arddangosfa, y gystadleuaeth- ac efallai fod hyn o reidrwydd; ‘cyn yr arf sy’n gorfodi egni allan, gwnaethom yr arf sy’n denu egni adre’
Ursula K Le Guin, The Carrier Bag Theory of Fiction.

Mae nonsequences yn rhedeg ochr wrth ochr ag arddangosfeydd, Quicksilver ac Undertow yn Freelands, Llundain, a chyhoeddiad wedi ei olygu gan Edward Ball. Nodiwyd gyda chyhoeddiad o Old Land New Waters, cyfrol wedi ei olygu yn nodi dwy flynedd o weithgaredd gan y garfan gyntaf o artistiaid – Kelly Best, Ian Watson, Fern Thomas, Jennifer Taylor a Neasa Terry – a chymerodd rhan yn y rhaglen artistiaid Freelands. Mae’n cynnwys cyfraniadau gan Grace Ndiritu, George Clark, Q&A gyda Kunsthalle Lissabon yn o gystal â gan g39, Site Gallery Sheffield, PS2, Belfast a Talbot Rice Gallery, Caeredin.

  • Fern Thomas, 2021
  • Ian Watson, 2021
  • Jennifer Taylor, 2021
  • Fern Thomas, 2021
  • Kelly Best, 2021
  • Nonsequences, 2021
  • Fern Thomas, 2021
  • Ian Watson, 2021
  • Ian Watson, 2021

Programme