On leaving and arriving

Mae On Leaving and Arriving yn edrych yn ôl dros ganrif o newid cyflym a dadleoli, cyfnod o ymfudo, masnach ac integreiddio. Cynhelir yr arddangosfa yng Nghaerdydd, dinas â phorthladd y lluniwyd ei dynameg gymdeithasol, ei hisadeiledd a’i gwneuthuriad ffisegol a diwylliannol gan fasnach a dylanwadau byd eang.

Yn Ne Cymru rhoddodd twf y diwydiant haearn ym Mlaenau’r Cymoedd yr ysgogiad dechreuol ar gyfer datblygu Caerdydd fel porthladd. Wedi hynny, pan ddechreuwyd ymelwa ar haenau dwfn y cymoedd, disodlwyd haearn gan lo fel sail ddiwydiannol De Cymru. Cyn hir roedd ei glo ager mor bwysig i gyflenwadau ynni’r byd ag y mae olew heddiw. Am rai blynyddoedd, roedd mwy o dunelli o lwythi yn cael eu trafod yn y porthladd nag yn Llundain neu Lerpwl, a chyn hir roedd dwy filiwn o dunelli’n cael eu hallforio’n flynyddol. Caerdydd oedd dinas fwyaf llewyrchus Prydain ar ddiwedd oes Fictoria. Arweiniodd y galw am lafur yn y cymunedau diwydiannol at ymfudo mewnol yng Nghymru ar adeg pan roedd gwledydd eraill a oedd yn llwyr ddibynnol ar amaethyddiaeth yn profi allfudo torfol. Symudodd deuparth y boblogaeth i’r De, ymfudiad a gyfrannodd, ynghyd â’r amrywiaeth enfawr o fewnfudwyr a oedd yn cyrraedd drwy forlwybrau, at dwf cyflym yn y boblogaeth. Trawsnewidiwyd Caerdydd a daeth yn ganolbwynt ar gyfer masnach rhwng Cymru a gweddill y byd.

Cefais fy magu yng nghymoedd De Cymru, a gwyddais fod y diwydiant hwn yn bwysig, bod rhyw arwyddocâd i’r pentyrrau enfawr o ddeunydd du, ond nid oeddwn yn ymwybodol o’r etifeddiaeth hon. I ni fel plant yn y saithdegau, nid oedd y tirlun du hwn o wastraff mor arw ag y mae rhai o luniau dogfennol llwyd o’r cyfnod yn ei awgrymu. Rhoddodd y tirweddau hyn faes chwarae eang i ni; daeth tomenni gwastraff yn draciau beiciau neu’n fannau cuddio, er nad oedd fawr o siawns o guddio yn y dirwedd ddu hon yn ein dillad polyester amryliw. Roedd y diwydiant glo yn ein hamgylchynu, ond yn blant, dim ond rhywbeth a luchiwyd ar y tân fesul llond rhaw fach oedd cynnyrch y diwydiant hwnnw. Ni sylweddolais tan llawer yn hwyrach gymaint oedd dylanwad y diwydiant. Roeddem yn cymryd y diwydiant glo yn ganiataol, nid oeddem yn sylweddoli ein bod ni yno oherwydd y glo, mai glo oedd y rheswm pam bod Caffi Rossi yno, y rheswm am siâp y bryniau, y rheswm dros fodolaeth Caerdydd. Glo oedd y rheswm am ganrif o ddadleoli o ran nwyddau a phobl.

Gwn bellach paham y cloddiwyd y bryniau, ac i ble yr oedd y glo yn mynd. Cafodd ei gludo mewn llongau i bob porthladd y gellir ei enwi yn Ewrop, glo oedd yr ynni a ddefnyddiwyd gan ddiwydiannau Rwsia, glo oedd yn gyrru trenau ar draws America neu allan o Bombay; glo oedd prif ddylanwad yr Oes Ddiwydiannol. Roedd wedi gadael Caerdydd ar longau â fyddai’n dychwelyd gyda llwythi o olew llinad, coed, marmor, a brethyn, neu wedi’u pwyso â charreg. Roedd y nwyddau hyn ar eu ffordd i weddill y DU, a defnyddiwyd y balast carreg i greu rhai o adeiladau mwyaf cain Caerdydd: gadawodd cwmnïau llongau ffyniannus eu hôl drwy adeiladu swyddfeydd, cyfnewidfeydd ac amgueddfeydd gyda’r arian a gafwyd o fasnach yn y ddinas hon a oedd yn ehangu’n gyflym.

Ond cwymp caled sy’n dilyn ffyniant, ac mae dirywiad y diwydiannau hyn yn codi cwestiynau difrifol ynglŷn â rôl a dyfodol De Cymru. Dim ond yn ddiweddar mae diffiniadau newydd yn dechrau dod i’r amlwg ar ôl cyfnod llewyrchus y Chwyldro Diwydiannol sy’n golygu bod lle i ail-archwilio ac ail-ddyfeisio’r ardal. Heddiw, uchelgais Caerdydd yw bod yn ganolfan ddiwylliannol. Mae’n ddinas sy’n cael ei thrawsnewid yn gyflym iawn, ac yn wynebu cwestiynau heriol ynglŷn â hunaniaeth, cynhwysiant, hygyrchedd, hyblygrwydd, buddioldeb a goblygiadau newidiadau gwleidyddol-gymdeithasol.

Nid yw On Leaving and Arriving yn ceisio darparu atebion i’r cwestiynau hyn; yn hytrach, mae’n gasgliad o safbwyntiau eraill, sy’n dangos o bosibl bod y broses o ddadleoli nwyddau a phobl a luniodd Caerdydd hefyd yn nodwedd allweddol o ddinasoedd eraill â phorthladd sydd bellach yn wynebu cwestiynau tebyg. Cynhelir yr arddangosfa mewn cynhwysyddion cludo wedi eu lleoli ledled y ddinas ac yn g39, a adeiladwyd yn wreiddiol fel gweithdy ar lannau hen gamlas Morgannwg i ddarparu nwyddau a gwasanaethau i Doc Gorllewin Bute. Mae fformat yr arddangosfa yn ein galluogi i ystyried graddfa ddiwydiannol y cynhwysyddion: i bob pwrpas rydym yn cerdded i mewn i gewyll, yn hytrach nag ystafelloedd, wrth i ni dramwyo dinas a adeiladwyd ar gefn y fasnach longau. O fewn y fformat hwn rydym yn canfod detholiad amrywiol o artistiaid o ardaloedd sydd wedi eu cysylltu â Chaerdydd drwy gyfrwng masnach. Ymdrinia rhai ohonynt â’r syniad o symud o un lle i le arall yn uniongyrchol, derbynia rhai bod ffiniau symudol yn anochel, tra bod eraill yn archwilio natur ac effaith y symudiadau hyn.

Mae’r arddangosfa yn archwilio’r rhinwedd ddymunol ond dadleuol sy’n gysylltiedig â pherthyn - y syniad o wreiddiau - drwy ystyried ymfudiad a dadleoliad ein cyndeidiau a’n hasedau. Diffinnir dadleoliad fel y graddau y symudwyd rhywbeth o’i lle priodol, ond yn yr arddangosfa hon mae pobl a phethau mewn lle gwahanol, yn hytrach na’r lle anghywir o angenrheidrwydd. Mae On Leaving and Arriving yn ymwneud â phellter yr artistiaid hyn o’r fan hon, y pellter rydym yn ei gerdded o gynhwysydd i gynhwysydd, y pellter rhwng ti a fi; rhwng cyfathrebu a deall. Mae angen negodi rheolau a chydberthynasau newydd a’u deall. Arddangosfa yw hon o gesys dillad, mapiau a phontydd gyda’u holl cyfeireiriau, ond mae hefyd yn arddangosfa sy’n ymdrin â gwiriondeb aruchel, trothwyon a gwahaniaethau, newidiadau cyflym a galarnad araf. Os ydym wedi colli rhywbeth wrth symud o le i le ac o un cyflwr i’r llall, mae rhywbeth y gallwn ei ennill hefyd; cydnabyddiaeth o un ffaith ddiymwad - mae popeth yn newid.

Programme