Anna Barratt

Anna Barratt, Untitled, 2008.
Anna Barratt, Untitled, 2008.

Mae gwaith Anna Barratt yn ein cyflwyno’n dawel i dir y swreal, yr isymwybod a’r dychymyg mewnol, ond heb yr ysmaldod na’r abswrdiaeth sydd yn aml yn cael ei gyfeirio ato fel ‘breuddwydiol’. Yn y gwaith hwn mae wynebau’r ffigyrau yn aml heb gorff, gan fwyaf yn oddefol ac yn ddifynegiant , ac o’u hamgylch mae drewdod yn ymestyn i’r awyrgylch gwag. Mae ffigyrau yn dawnsio neu’n arnofio a llygaid yn syllu o byllau lliw. Mae motiffau amryfal yn ymddangos, o gawellau, cynffonau, nadroedd a chyflau. Mae ei dyluniadau wedi’u creu yn fanwl ac yn fregus mewn lliwiau llachar a llinellau pinnau mân, ac mae ganddynt emosiwn amrwd a
naïfrwydd wrth gynnal amwysedd sy’n gadael dehongliad neu ddealltwriaeth penagored. O fewn y delweddau, bob yn hyn, ceir llygedyn o ddelwedd sy’n ennyn brith gof, yn achlysurol - cysegr hindwaidd neu ffotograff arswyd am stori yn y newyddion - ond mae’r gwir darddiad yn anodd i’w olrhain.


Yn achlysurol mae Barratt yn rhoi awgrym o naratif: mae peth o’i gwaith wedi cael ei hongian ar ffurf cyfres mewn llinell neu floc, gan demtio’r gwyliwr i chwilio am gysylltiadau achos ac effaith rhwng y gwaith. Mae taflunydd sleidiau ar y llawr cyntaf yn tanio’n bryfoclyd er mwyn rhoi cipolwg i ni ar un, efallai dwy ddelwedd o set.

Mae Anna hefyd wedi defnyddio dulliau naratif er mwyn creu dyluniadau syml wedi’u hanimeiddio ar gyfer yr arddangosfa hon: Ar y llawr cyntaf mae tudalennau o’i llyfr nodiadau cut in half. Mae manylion o fewn y dyluniadau yn llifo, yn datblygu ac yn newid, ac mae’r animeiddiad yn cylchdroi, gan gwblhau proses o drawsffurfio i adfer. Mae’r cylchrediad byr a thyfiant esblygol y dyluniadau symudol hyn yn eu hachosi i fod yn fesmeraidd a llesmeiriol, gan roi’r grym iddynt gadw’r gwyliwr mewn stad swyngwsg. Wedi’u gosod ymhlith darluniau eraill ar badiau ffôn neu ddarn o bapur - pennau gyda nifer o lygaid, neu wynebau’n hongian fel ffrwyth ar goeden - cawn gwell ddealltwriaeth o’r gwaith organig, anfwriadol hwn.

Dim ond dau ddarn o waith sydd ar lawr uchaf yr oriel. Mae un ffigwr yn edrych yn ôl arnom gydag un llygad. Fel ffetws, mae’n wag yn y canol. Ar y wal gyferbyn, mae anifail wedi’i ddylunio’n fras gan ddefnyddio technegau llinellau cartŵnau cynnar; er ei fod yn debyg i ddyn, mae’n siglo’i gynffon. Wrth i’r cluniau doniol, egsotig coch symud o ochr i ochr, mae cynffon las nwydus yn cyrlio - arwydd o foddhad, neu ddicter? Fel siglad, mae’r ddelwedd yn hoelio ein sylw am yn hirach nag y dylai.

Gan dynnu’n sylweddol ar brofiadau personol neu fanylion hunanfywgraffyddol, mae delweddau Anna yn uno bywyd bob dydd â charnifal. Mae pobl yn cael eu plethu i fyd sy’n ddyledus i fytholeg Geltaidd neu ganoloesol yn gymaint ag ydyw i fywyd cyfoes yn eu holl ffurfiau gwahaniaethol ac anhaclus. Mae’n debyg mai chwilio am ystyr neu gysylltiad yw hanfod gwaith Anna o bosibl, nid y darganfyddiad. Er ei bod yn tynnu ar brofiadau personol, mae Anna’n sôn am edrych ar y lluniau’n wrthrychol er mwyn gweithio yn y modd hwn yn hytrach nag encilio i’r byd preifat hwn. ‘ Daw’r lluniau o densiynau ac unigedd o fod mewn lleoliad domestig, gan ddelio â’r presennol a byd chwarae rhyfedd fy mab. Yna, rwy’n newid i drwytho fy hunan i’m gwaith’.

Hoffai Anna a g39 ddiolch i Dave Marchant am ei gymorth wrth gynhyrchu’r gwaith hwn.

  • Anna Barratt, Untitled, 2008.
  • Anna Barratt, Untitled, drawing on 35mm slide, 2008.
  • Anna Barratt, Untitled, animation, 2008.
  • Anna Barratt, Untitled, 2008.
  • Anna Barratt, Untitled, 2008.
  • Anna Barratt, Untitled, 2008.
  • Anna Barratt, Untitled, 2008.
  • Anna Barratt, Untitled, 2008.
  • Anna Barratt, Untitled, 2008.

Programme