Portmanteau

Richard Bevan, Untitled, 2011
Richard Bevan, Untitled, 2011

g39 has been invited to present a special group exhibition within Halle 14 in Leipzig, Germany, an expansive centre for the arts housed in a disused Cotton Spinning Mill.

Mae g39 wedi cael gwahoddiad i gyflwyno arddangosfa grŵp arbennig o fewn Halle 14 yn Leipzig, yr Almaen, sy’n ganolfan eang ar gyfer y celfyddydau wedi’i lleoli mewn hen Felin Troelli Cotwm.


Ers 2003, mae mwy na 15 o orielau celf ac ystafelloedd arddangosfa wedi agor ac mae dros 80 o artistiaid wedi gweithio yn y Felin Troelli Cotwm yn Leipzig. Mae rhwng un a thair arddangosfa grŵp rhyngwladol yn digwydd bob blwyddyn, ac eleni mae g39 wedi cael gwahoddiad i gyflwyno darlun wedi’i guradu o gelf gyfoes o Gymru a gwaith gan artistiaid eraill o’r DU.

Mae'r gair portmanteau yn olrhain yn ôl i ganol yr 16eg ganrif yn Saesneg lle y cafodd ei ddefnyddio ar ei ffurf ddirgel, portemantew, i ddisgrifio bag neu gist gario ar gyfer dillad. Ar ddiwedd yr 16eg ganrif, cafodd ei ddefnyddio gyntaf yn Ffrainc, fel 'porte-manteau,' i labelu cludwr dillad dynol. Erbyn yr 17eg ganrif, cafodd ei ystyr gwreiddiol ei ymestyn i unrhyw gist neu gynhwysydd sy’n cynnwys cymysgedd o eitemau. Yn yr 21ain ganrif ymestynnwyd yr ystyr ymhellach i gynnwys unrhyw ddyfais gof gludadwy. Ar gyfer yr arddangosfa, bydd g39 yn cludo 'cist ddigidol' i’w chyflwyno.

Meddyliwch am hyn fel penderfyniad munud olaf i fynd ar daith dros y penwythnos lle mae’n rhaid pacio bag dros nos gyda phethau hanfodol. Gyda hynny mewn cof, mae g39 yn mynd â gyriant caled i daflunio gwaith digidol yn y gofod yn Halle 14, ochr yn ochr â nifer o weithiau ffisegol diweddar. Gydag arfer wedi gwreiddio mewn cerflunio iwtilitaraidd, mae Aldridge yn ymateb i’r safle ei hun ac egwyddorion ehangach yr arddangosfa i barhau â’i waith o gynhyrchu gwrthrychau wedi pacio’n fflat o ddeunyddiau bob dydd fel cardfwrdd. Ac mae Dawn Woolley a David Cushway yn cyflwyno gosodiad perfformiad byw. Mae Woolley yn defnyddio iaith symbolaeth mewn gwaith peintio ‘Dutch Bordeeltjes’ i greu perfformiad 'bywyd llonydd' sy’n cyfeirio at hen swyddogaeth Halle 14 fel melin troelli cotwm, gan ddefnyddio propiau ac ystumiau a ddewiswyd yn ofalus i symboleiddio cartrefgarwch, masnach a dyhead. I'r gwrthwyneb, mae Cushway yn cyflwyno perfformiad troelli platiau gwyllt, sy’n portreadu caledi a dirywiad y platiau yn hardd.

  • Richard Bevan, Untitled, 2011
  • Helen Sear, Display, 2011
  • Dawn Woolley, Foolish Passion (detail from performance), 2011
  • Sam Aldridge, Untitled, 2011
  • Lesley Guy, George Russell (from the Obituaries series), 2009
  • David Cushway, detail from Plate Spinner (performance), 2011
  • Anthony Shapland, The Life Of Raymond.C Cook (Film Poster) 2011
  • Candice Jacobs, Thank You!, 2010

Programme