22 Chwefror - 29 Mawrth 2020
Aled Simons, Carlota Nóbrega, Cybi Williams, Dylan Huw, Elin Meredydd, Ella Jones, Gweni Llwyd, Hugo

RAT TRAP, National Museum Wales, Jenny Taylor
Dyma neges oddi RAT TRAP:
Helo bawb, mae gennym wybodaeth bwysig am ddigwyddiadau RAT TRAP x g39.
Oherwydd sefyllfa bresennol COVID-19/Coronavirus, rydym wedi penderfynu gohirio ein digwyddiadau byw, yn cynnwys Dêt Preswyliad 4 a Pharti Blwyddyn y Llygoden Fawr.
Rydym yn hynod siomedig i orfod gohirio, ond mae’n rhaid blaenoriaethu diogelwch ein cynulleidfa, sy’n holl bwysig i ni.
Bydd holl docynnau i’r Parti yn cael eu had-dalu yn llawn. Os oes ganddo’ch unrhyw ymholiadau am eich tocyn neu unrhyw beth arall, e-bostiwch ni rattrapcdf@gmail.com
Cadwch yn saff blantos, edrychwch ar ôl eich gilydd, mae RT yn eich caru yn fawr.
Cofiwch - blwyddyn y llygoden fawr ‘di hi, nid blwyddyn yr ystlum xxxxx
Aled Simons, Carlota Nóbrega, Cybi Williams, Dylan Huw, Elin Meredydd, Ella Jones, Gweni Llwyd, Hugo Brazão, Inês Brites, Jennifer Taylor, L. Barron, Mark Hicken, Molly Sinclair-Thomson & Rhys Aneurin. Hefyd: Buzzard Buzzard Buzzard, Keys, Private World, Panic Shack & The Bug Club.
Yng Ngwanwyn 2020 mae g39 yn cael ei drosglwyddo i RAT TRAP, colectif o artistiaid a cherddorion. Maen nhw'n dod o genhedlaeth o artistiaid sy'n plethu pethau mewn ffyrdd amrywiol ac amgen ac yn dod o hyd i'w llwybrau eu hunain trwy'r ddrysfa o brotocolau a ffyrdd o wneud a deud, trwy ei wynebu o ongl wahanol.
Mae digwyddiadau RAT TRAP yn aml yn cymysgu cerddoriaeth ac arddangosfa heb i'r naill ddod yn gefndir i'r llall. Maent yn canolbwyntio ar waith byw a gweithiau sy'n esblygu yn ystod sgyrsiau, mae'r gwaith yn amrwd, heb gyfryngu ond yn cael ei ystyried yn gywrain.
Rydym yn falch ein bod wedi cynnig y gyllideb, yr adeilad a'n cefnogaeth i RAT TRAP ar gyfer rhaglen Tymor y Gwanwyn g39. Bydd RAT TRAP x g39 yn arddangos artistiaid, cerddorion a bandiau o Gymru, Lloegr a Phortiwgal trwy gyfres o ddigwyddiadau byw, preswyliadau ac arddangosfeydd.
Bydd cyfres breswyl RAT TRAP x g39 yn cynhyrchu gwaith celf cydweithredol newydd gan dros 10 artist o Gymru, Lloegr a Phortiwgal. Bydd artistiaid dirgel yn cael eu paru ar ‘blind date’ - gan ddechrau eu cydweithrediadau â phrydau bwyd mewn golau cannwyll rhamantus a gorffen gyda pharti mawr ar ddiwedd y preswyl. Bydd RAT TRAP hefyd yn cydlynu Clwb Brecwast bob dydd Sadwrn. Bydd digwyddiadau, cerddoriaeth byw, perfformio a sgrinio yn digwydd trwy gydol y broses, gan gynnwys parti agoriadol ar 22ain Chwefror a pharti cloi ar 28ain o Fawrth.
O hyn ymlaen, RAT TRAP sy'n rheoli.
RAT TRAP x g39 Parti Agoriadol Rhy Gormod
Mae RAT TRAP yn ôl ac yn meddiannu g39 am chwe wythnos rhyfeddol. Fe'ch gwahoddir yn gynnes i ddathlu rhy gormod mewn parti maint canolig ar gychwyn meddiant Rat Trap x g39.
Os mai cerddoriaeth recorder ydych chi'n genre o ddewis, does dim ots gennych mymryn o ddeunydd sgleiniog ac o bosibl latecs yn rhwbio yn erbyn eich croen noeth darllenwch ymlaen. Efallai eich bod chi’n un o’r bodau dynol ecsentrig ‘ma sy’n hoff o ddawnsio mewn distawrwydd neu efallai treulio amser mewn warysau amrywiol, os hynny mae’n debyg iawn y bydd y digwyddiad hwn yn ticlo eich ffansi chi. (Sylwer; ni allwn warantu y bydd unrhyw un o'r pethau hyn yn bresennol)
Yn ogystal, os ydych chi'n awyddus i weld perfformiadau a gwaith ar y gweill gan deulu Rat Trap, bydd y Parti Agoriadol Rhy Gormod hefyd yn addas i'ch cynlluniau nos Sadwrn.
* Cynghorir y rhai sydd â globoffobia i fod yn ofalus wrth fynychu'r digwyddiad.
Dydd Sadwrn Chwefror 22ain 2020 6yp – 9yp
Dêt 1. Preswyliad 1.
Ymunwch â ni ar gyfer tridiau o hwyl mewn talpiau ddydd Iau 27ain o Chwefror, gan ddechrau gyda dêt dall (blind date) cyhoeddus iawn rhwng dau artist dirgel dros bryd o fwyd rhamantus. Arhoswch gyda ni am dri diwrnod (neu ewch a dod fel y mynnwch os ydych chi'n tueddu i fod angen cwsg a bwyd ac ati) i'w gwylio nhw'n datblygu gwaith newydd sbon mewn cydweithrediad â'i gilydd ... neu heb ei gilydd yn dibynnu ar lwyddiant y dêt tyngedfeddol cyntaf.
I ddiweddu’r cyfnod preswyl byddwn yn agor drysau g39 ar nos Sadwrn 29ain o Chwefror i ddangos ffrwyth eu llafur. Bydd adloniant yn cael ei ddarparu ar ffurf Karaoke - dan ofal Mark Hicken, aelod annwyl iawn o deulu Rat Trap.
Mi fydd y digwyddiad yn debyg i dreulio pyliau o ddyddiau yn gwylio First Dates, yna rhaglenni dogfen David Attenborough ac yn gorffen gyda phenodau erchyll clyweliadau cyntaf X Factor.
Dêt Dall: 27ain Chwefror, 6-9yp
Ar Agor: 28ain – 29ain Chwefror 2020
Lansiad/ Karaoke: Dydd Sadwrn 29ain Chwefror, 6-9yp
Dêt 2. Preswyliad 2.
Ar gyfer dêt 2 byddwn yn gwneud erm.. ia… union yr un peth. Ond hefo dau artist diethr arall sydd erioed wedi cyfarfod. Din-dins dan olau cannwyll a sgwrs ar ddydd Iau 5ed Mawrth. Dim ond amser a ddengys os bydd y ddau fel ci a chath neu bydd y ddau yn gwenu o glust i glust ar ddiwedd eu preswyliad cyd-weithredol. Beth bynnag fydd, gwahoddir chi i ddod i fusnesu arnynt ar ei gwaith. Fel rhyw fath o ‘day out’ hirfaith i sŵ pobl.
Yna unwaith eto ar ddydd Sadwrn 7fed o Fawrth ymunwch â ni wrth iddyn nhw rannu eu gwaith a gwylio sgrinio o fidios YouTube ayyb.
Mi fydd y digwyddiad yn debyg i dreulio pyliau o ddyddiau yn gwylio Dinner Date, yna Big Brother a chloi gyda You’ve Been Framed.
Dêt Dall: 5ed Mis Mawrth, 6-9yp
Ar Agor: 6ed-7fed Mis Mawrth 2020
Lansiad/ Youtube: Dydd Sadwrn 7fed Mis Chwefror, 6-9yp
Dêt 3. Preswyliad 3.
Ie, fe wnaethoch chi ei ddyfalu… ciniawa dan olau cannwyll eto gyda dau ddieithryn sydd hefyd yn digwydd bod yn artistiaid ar ddydd Iau 12fed o Fawrth. Nid sgwrs artist gyffredin mo hon ... mae'n debycach i Marina Abromovic yn cynhyrchu'r gyfres nesaf o Love Island.
I nodi diwedd eu cyfnod preswyl byddwn yn cynnal parti bach eto ar nos Sadwrn 14eg Mawrth.
Mae RAT TRAP yn gasgliad aml-blatfform o artistiaid gweledol a cherddorion. Rydym yn trefnu ac yn curadu digwyddiadau mewn lleoliadau amgen, lle rydyn ni'n ceisio cymysgu cynulleidfaoedd a fformatau. Dechreuon ni yn 2016 tra roeddem yn fyfyrwyr, yn cydnabod yr angen am ofod a fformat hygyrch i artistiaid, cerddorion a bandiau i rannu ac arbrofi yng Nghaerdydd. Yn 2017, fe wnaethom sefydlu RAT TRAP Studios yn y Rhath i ddarparu gofod fforddiadwy i artistiaid weithio a cherddorion i'w recordio.