George Hampton Wale, Adam Moore, Zillah Bowes,
Gwenllian Davenport & Umulkhayr Mohamed

Artist, dylunydd a gwneuthurwr o’r Fenni yw George Hampton Wale. Mae rhan fwyaf o waith George wedi ei seilio ar decstilau cerfluniol, yn amgylchynu themâu o berthyn: mewn corff, mewn tirwedd, mewn queerness, yng Nghymru.
Mae Gwenllian Davenport yn gweithio rhwng dwy iaith a’r gwrthdrawiadau o gof cyhyr wrth iddi newid rhyngddynt. Mae’r broses hon yn teimlo’n gnawdol a thiriaethol, mae’n gweld iaith fel deunydd ac yn ceisio dal y corfforoldeb mewn darnau sy’ seiliedig ar gerflun, iaith, sain neu fideo.
Mae Adam Moore yn artist Prydeinig- Sant Lwsian trawsddigyblaethol sydd wedi ei leoli yn Llundain a sy’n gweithio gyda dawns. Mae ei waith yn archwilio amlddiwylliannedd, undod a gwydnwch, yn syntheseiddio dimensiynau deunydd, synhwyraidd ac ysbrydol o’r hunan gyda’r byd a gydag eraill.
Gwneuthurwr ffilm, ffotograffydd a bardd yw Zillah Bowes. Mae ei gwaith yn aml yn archwilio rôl y tirlun a’i berthynas gyda’r unigolyn. Mae ei chysylltiad cyfredol i natur yn llywio ei hymarferiad ar draws pob cyfrwng.
Mae Umulkhayr Mohamed yn artist, ysgrifennwr a churadur Cymreig Somalïaidd. Mae ei hymarferiad artistig yn cynnwys creu ffilm a gwaith perfformio artist yn bennaf sy’n archwilio’r tensiwn sy’n bodoli rhwng mwynhau'r weithred o grwydro rhwng tymmorau rhyddfreiniol ac angen gweithrediadol i osod eich hun yn y presennol.

Copyright © g39 2025 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants