UNITe22

9 Mawrth - 14 Mai 2022

George Hampton Wale, Adam Moore, Zillah Bowes,
Gwenllian Davenport & Umulkhayr Mohamed

Adam Moore, Long Play Liberation (2020), performance installation commissioned by Newham London for Newham Black History Month 2020 - Photo by Hayleigh Longman
Adam Moore, Long Play Liberation (2020), performance installation commissioned by Newham London for Newham Black History Month 2020 - Photo by Hayleigh Longman

Bydd UNITe22 yn dod i derfyn gyda digwyddiad stiwdio agored, wedi ei arwain gan yr artistiaid i ddangos yr hyn maent wedi bod yn gwneud ac i ddathlu ddiwedd y preswyliad. Bydd y preswylwyr newydd Umulkhayr Mohamed, (Caerdydd); Adam Moore, (Llundain); Gwenllian Davenport, (Dowlais); George Hampton Wale, (Y Fenni); Zillah Bowes, (Caerdydd) yn ymgymryd â gwaith newydd ac yn datblygu prosiectau mewn rhaglen a gefnogir.



Rhaglen breswyl stiwdio naw wythnos o hyd wedi ei greu gan artistiaid ar gyfer artistiaid yn g39 yw UNITe. Mae’n ofod ar gyfer ymarferiad artistig ac yn gysylltiedig ag ymchwil, arbrofion, profi syniadau, camgymeriadau, rhannu syniadau, trafodaethau, serendipedd, a darganfyddiadau.

Yn 2022 rydym yn falch o gyflwyno Jerwood UNITe mewn cydweithrediad a Jerwood Arts, cyllidwr annibynnol sy’n ymroddi i gynnig cymorth i artistiaid, curaduron a chynhyrchwyr nodedig i ddatblygu a ffynnu. Gyda’u cymorth rydym yn cynnal pum safle yn 2022.


Artist, dylunydd a gwneuthurwr o’r Fenni yw George Hampton Wale. Mae rhan fwyaf o waith George wedi ei seilio ar decstilau cerfluniol, yn amgylchynu themâu o berthyn: mewn corff, mewn tirwedd, mewn queerness, yng Nghymru.

Mae Gwenllian Davenport yn gweithio rhwng dwy iaith a’r gwrthdrawiadau o gof cyhyr wrth iddi newid rhyngddynt. Mae’r broses hon yn teimlo’n gnawdol a thiriaethol, mae’n gweld iaith fel deunydd ac yn ceisio dal y corfforoldeb mewn darnau sy’ seiliedig ar gerflun, iaith, sain neu fideo.

Mae Adam Moore yn artist Prydeinig- Sant Lwsian trawsddigyblaethol sydd wedi ei leoli yn Llundain a sy’n gweithio gyda dawns. Mae ei waith yn archwilio amlddiwylliannedd, undod a gwydnwch, yn syntheseiddio dimensiynau deunydd, synhwyraidd ac ysbrydol o’r hunan gyda’r byd a gydag eraill.

Gwneuthurwr ffilm, ffotograffydd a bardd yw Zillah Bowes. Mae ei gwaith yn aml yn archwilio rôl y tirlun a’i berthynas gyda’r unigolyn. Mae ei chysylltiad cyfredol i natur yn llywio ei hymarferiad ar draws pob cyfrwng.

Mae Umulkhayr Mohamed yn artist, ysgrifennwr a churadur Cymreig Somalïaidd. Mae ei hymarferiad artistig yn cynnwys creu ffilm a gwaith perfformio artist yn bennaf sy’n archwilio’r tensiwn sy’n bodoli rhwng mwynhau'r weithred o grwydro rhwng tymmorau rhyddfreiniol ac angen gweithrediadol i osod eich hun yn y presennol.


UNITe22
Stiwdio Agored:
Dydd Gwener 13eg Mis Mai
&
Dydd Sadwrn 14eg Mis Mai



  • Adam Moore, Long Play Liberation (2020), performance installation commissioned by Newham London for Newham Black History Month 2020 - Photo by Hayleigh Longman
  • George Hampton Wale, `The Coat` as part of costume design for `An Evening Length Performance` by James Batchelor and Collaborators, Brugge. 2021. Photographer: Zander Porter
  • Gwenllian Davenport, Two Hiccups, 2022
  • Umulkhayr Mohamed, Life`s Essence (still)
  • Zillah Bowes, MELD (series) 2022.

Programme