We're not here to give you pleasure

<b>Gary Ward</b>
Gary Ward

Fel teitl, mae ‘WE’RE NOT HERE TO GIVE YOU PLEASURE’ yn eitha’ hunan esboniadwy, fodd bynnag, hoffem ychwanegu cyflwyniad byr i’r sioe. Hoffem ni ddechrau trwy ddweud nad ydyn ni am wneud unrhyw ddatganiadau mawr neu honiadau beiddgar ond dydyn ni ddim eisiau i gyfaddawdu chwaith, felly gobeithiwn fod hyn yn glir o’r dechrau. Beth bynnag rydym ni’n credu y dylen ni ddweud wrthoch sut a pham rydyn ni wedi cyrraedd o Frankfurt a Chaeredin (y ddau gam cyntaf o’r arddangosfa yma a ddechreuodd ym Mis Hydref llynedd) i’r pwynt yma o ddangos 14 artist sy’n byw ledled Ewrop .

Ydych chi’n eistedd yn gyffyrddus?

Cysyniad sylfaenol yr arddangosfeydd yma yw i gasglu at ei gilydd pobol sydd, yn ein barn ni, â diddordeb mewn ceisio i ddangos rhywbeth gwreiddiol. Efallai fod hyn yn amcan amlwg ar gyfer arddangosfa, ond fel curadwyr yr arddangosfa fythnewidol yma, rydym wedi bod yn ymwybodol iawn i beidio â gorfodi prif arddull neu thema ar yr artistiaid sy’n gweithio gyda ni. Er enghraifft, “ nid yw hi wedi’i gorffen, ewch â hi allan o yma ”. Yn gyntaf, fydden nhw ddim yn gwrando arnom ni, ac yn ail fydden ni ddim yn disgwyl iddyn nhw wrando chwaith. Mae’n perthynas ni gyda’r artistiaid yn y sioe yn gwbwl seiliedig ar ein ffydd ni ynddyn nhw i wneud yr hyn a wnân nhw orau, er mwyn i ni i wneud yr hyn a wnawn ni orau.

I ni mae’n dybiaeth amlwg fod unrhywun sy’n ymweld ag oriel gelf yna er mwyn gweld rhywbeth newydd, neu rywbeth na fydden nhw’n gweld unrhywle arall, fel ar y teledu er enghraifft. Efallai fod hyn yn farn anghyffredin ond rydyn ni’n credu taw hyn ydy pwrpas a gwir bosibilrwydd unrhyw oriel. Trwy gydol y daith gwneir gwaith newydd gan bob un o’r artistiaid ar gyfer pob lleoliad gwahanol, ond eto nid yw’r teitl wedi newid - ac mae hyn yn rhan bwysig ohono. Mae’r arddangosfa wedi troi’n gasgliad o ymatebion i’r teitl a’r amcan yma, deialog sy’n newid gydag amser a lleoliad. Mae hi’n gofod lle mae amnesia ac empiriaeth yn astudio symudiadau ei gilydd cyn gadael y canlyniadau ar ôl er mwyn i ni eu hymchwilio.

Rydyn ni’n deall ein bod ni ar fin gwneud datganiad mawr fanyn. Ond trwy’r gwaith gobeithiwn wrthweithio yn erbyn y dallineb a achoswyd gan y gorddangosiad o’r math o waith a alwyd yn ‘ ysgytiol’.

Ar un adeg yr oedd rhaid i Charles dynnu ei waith allan o arddangosfa oherwydd teimlodd y curadwyr taw’r math anghywir o ‘ysgytiol’ oedd y darn, ac er nad oedden ni’n gallu rhannu’r boen yma ar y pryd, mae hyn wedi dod yn bwynt allweddol i’r ddau ohonyn ni gyfeirio at ers i ni ddechrau’r prosiect. Mae’n ymddangos fod y term ‘ysgytiol’ wedi cael ei defnyddio fel diffiniad cyfleus ar gyfer yr hyn sydd yn atyniadol neu’n bryfoclyd mewn darn o gelf, gan roi llawer o’r syniadau sy’n gysylltiedig â’r gwaith y tu hwnt i drafodaeth. Fel y cyfeiria darn Charles yn y sioe yma, mae hyn yn symleiddiad o iaith ac nid yn ehangiad ohoni. Yn lle, cawn ‘isms’ ac ‘alities’ sydd, yn ein barn ni, yn rhy agos i chwinciadau twyllwr.

Y pleser rydym yn sôn amdano yn y teitl yw’r pleser o gael eich credoau wedi’u cadarnhau. Nid yw hyn yn golygu fod yna ddim pleser i’w gael yma, ond nid yw hi yr un bleser â’r hyn oeddech chi’n disgwyl.

Tom Dale a Charles Jeffery- curadwyr


Nid yw WE’RE NOT HERE TO GIVE YOU PLEASURE yn dibynnu’n unig ar lwyddiant y cynnyrch gorffenedig ond hefyd ar y prosesau a thrafodaethau sy’n cwmpasu’r arddangosfa pob tro iddi symud i ddinas newydd. Wedi ei strwythuro’n rhydd, fel math o think-tank rhwngwladol, mae’r sioe yna i hybu deialog rhwng Cymru a gweddill Ewrop. Addewir gwaith yr arddangosfa i fod yn eclectig, yn heriol neu’n aneglur, yn amrywio o Berfformiad Selsigen Ranbarthol i dapddanswr yn tapio neges gudd mewn Côd Morse.

Mae fideo Benoit Travers (‘My Holidays on the Houat Island with my friend Peggy’) yn ei ddangos e’n chwarae drwm dros dro ( ar y dechrau) wrth iddo geisio adrodd stori wrth i’r curiad dyfu’n fwy ac yn fwy datgymalog. Gan gyflwyno cynnwys ei drôr cegin, mae gwaith Sofio Hulton, ‘Analysed contents of my kitchen drawer’ yn archwilio’r gallu sydd gan wrthrychau amrywiol pob-dydd i awgrymu stori, hunangofiant ffugiol o rywun sydd ddim yna, ond sy’n cael ei disgrifio gan y gwrthrychau a’r gweddillion o’i bywyd.

Wedi’i lleoli mewn seler, mae gwaith fideo chwilfrydig Gary Ward yn codi o ddylanwad myfyrdod corfforol Dwyreiniol ar ein idealog Orllewinol. Yn y DU a’r UDA mae myfyrdod wedi dod yn fwy poblogaidd na loncian. Buodd Shapland a Cousin yn edrych tu allan o’r oriel at y blerdwf trefol i ddarganfod sut i fynd ar goll. Fe bostiodd y ddau artist pledion ar gyfer gwybodaeth am y naill a’r llall ar eu hochrau’u hunain o’r dre’ wrth iddyn nhw geisio ddarganfod os y gallen nhw ddiflannu, neu hyd yn oed os ydyn nhw eisoes wedi diflannu. Fe gaiff yr ymatebiadau eu hailchwarae yn yr oriel wrth i’r ffon eistedd yn ddisgwylgar, yn aros am wybodaeth.

Cyflwyna Charles Jeffery y geiriau i gân Barry White wrth i ni ddringo’r grisiau, mae’r geiriau or-lyfn o’i ‘Love Serenade yn dod i uchafbwynt ar gam uchaf yr oriel; dim ond i ni gael ein hwynebu gan iaith gelfyddydol - ‘ isms’, ‘ismism’ ac ismesque’ - ar y ffordd i lawr. Wedi’i seilio ar y canllawiau sy’n cael eu hysgrifennu ar gefn tuniau paent mae’r murlun trefnus ar y llawr cyntaf, ‘Dialects of accelerating yellow’ gan Peter Luetje yn defnyddio paent du a gwyn i orchuddio wal, yn creu siwrnai gromatig o lwyd i wyn. Mae’r paent gwyn yn cystadlu yn erbyn y paent du sy’n bygwth i’w thywyllu hi. Yng nghanol yr ystafell mae gwneuthurwr- modelau obsesif yn ymddangos i gael rhithweledigaethau wrth i Matt Houling drawsffurfio lamp sefyll cyffredin i fod yn rhan o ddinaswedd dyfodolaidd. Mae argraffiadau ffotograffig Haegue Yang ‘Traces of anonymous pupil-authors’ yn defnyddio llyfrau ysgol Koreaidd. Gan drin â’r delweddau ar gyfrifiadur, mae hi’n dileu y rhifau a’r geiriau printiedig, gan adael dim ond sgribl llawysgrifen perchnogion y llyfrau. Ar y grisiau dangosir ‘Blending In’, gwaith ffotograffig Sofia Hulten, golygfeydd o strydoedd pob dydd ble mae’r dirwedd trefol yn ymddangos fel pe bae’n dynwared y bobol sy’n byw ynddyn nhw.

Mae ffilm arbrofol Chris Brown ‘spinning coin’ yn cyflwyno i ni weithred seml sy’n digwydd trosodd a throsodd, ond gyda chanlyniadau gwahanol. Mae amcanion Brown yn amwys yn y darn hwn ac mae ei natur ail-adroddllyd a’r strôb du a gwyn yn gostegu’r gwyliwr mewn i gyflwr myfyriol. Mae ‘Trusting Trevor’ yn gasgliad o doriadau papur newyddion oddi wrth archif Laura Quarmby ofyn i ni i ailystyried diwylliant pob dydd. ‘ITV newscaster Trevor McDonald is the nations ‘s most trusted figure, with 43 percent of those polled claiming to trust him a great deal’. Ar ochor arall yr ystafell mae darn Tom Dale ‘Morse Code Tap Dance For A Woodpecker’ yn ymddangos fel jôc Monty Python; mae gan neges mewn Côd Morse y potensial i gael ei thapio gan yr esgidiau tap tu fewn i’r oriel. Mae dulliau gwahanol o gyfathrebu gwallus yn sillafu negeseuon anghyson ar y waliau.

Mae Chantal Santon a Joe Cutler wedi gweithio gyda’i gilydd ar 4 cyfansoddiad newydd a chafodd eu perfformio ganddynt yn ystod y golwg preifat. Yn ogystal â hyn, roedd yna berfformiad selsigen ranbarthol gan Charles Jeffery ar y ddesg flaen. Yn y gorffennol mae e wedi mynd â Selsig Morgannwg i’r Almaen, Frankfurters i Gaeredin a nawr Saucisson i Gaerdydd. Mae ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys Haggis a Knokwurst.

publicFe fydd WE’RE NOT HEAR TO GIVE YOU PLEASURE yn darparu adloniant gyda chryn gic iddi. Mae gan y gwaith diddorol yma ymdeimlad ffwrdd?â?hi, fel ymateb uniongyrchol i safle a chynsail yr arddangosfa.





  • <b>Anthony Shapland</b> & <b>Michael Cousin</b>
  • <b>Benoit Travers</b>
  • <b>Gary Ward</b>
  • <b>Charles Jeffries</b>
  • <b>Laura Quarmby</b>
  • <b>Haegue Yang</b>
  • <b>Peter Lutje</b>
  • <b>Tom Dale</b>
  • <b>Matthew Houlding</b>

Programme