Mae Shiftwork yn dod â phedwar artist ynghyd sydd, drwy eu gwaith, yn tynnu allan nifer o faterion esthetig a gwleidyddol yn ymwneud â bywydau'r Sipsi, Roma a Theithwyr drwy eu cynrychioli'n ddiwylliannol. Cafodd rhai o'r gweithiau eu dangos yn flaenorol fel cyflwyniadau unigol fel rhan o'r prosiect ‘Gypsy Maker’; cysyniad arloesol a oedd yn torri tir newydd a gafodd ei ddyfeisio, ei berchnogi a'i ddatblygu gan the Romani Cultural & Arts Company. Y nod yw comisiynu artistiaid sefydledig a rhai sy'n dod i'r golwg i ddatblygu gwaith newydd sy'n ymgysylltu â chymunedau Sipsi, Roma a Theithwyr a'r gymuned ehangach mewn deialog ynghylch persbectifau celfyddydol a diwylliannol cyfoes. Caiff y prosiect 2018 hwn ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac fe'i comisiynwyd gan the Romani Cultural & Arts Company.
Mae pob un o'r artistiaid yn defnyddio dull gwahanol – o arddull ddogfennol Artur Conka, un o'r Roma prin sydd wedi ffilmio ei gymuned ei hun, i osodiadau cerfluniol Daniel Baker sy'n archwilio ymfudo a symud rhydd. Mae gan baentiadau hynod Shamus McPhee ymdeimlad amlwg o 'gelf rhywun o'r cyrion' tra bo materion cymhleth rhywioldeb a rhywedd yn cael eu harchwilio yng ngwaith eclectig Billy Kerry. Mae'r dulliau unigryw hyn o edrych ar ddiwylliant cyfoes y Romani yn tynnu pobl ynghyd drwy dynnu sylw at y cysylltiadau rhwng cymunedau, tra bônt yn cydnabod ac yn dathlu gwahaniaeth ar yr un pryd. Ar gyfer y sioe hon yn g39 bydd nifer o'r gweithiau a gynhyrchwyd yn ystod y prosiect ‘Gypsy Maker’ yn cael eu harddangos, ochr yn ochr â gweithiau cydweithredol newydd a ddatblygwyd mewn deialog gyda g39.
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants